Llais y Llywydd: Rhodri Meilir

Rhodri Meilir

Mae Rhodri Meilir yn wyneb cyfarwydd ar y sgrin fach ac ar lwyfannau theatrau Cymru, wedi iddo actio mewn cyfresi megis Tipyn o Stad, Y Pris a My Family. Ef hefyd, wrth gwrs, oedd Rapsgaliwn.

Wedi ei fagu yn yr Wyddgrug ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, Rhodri ydy llywydd y dydd ar ddydd Gwener yn Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint eleni.

Bu Cymru Fyw yn ei holi am ei atgofion am y mudiad a'r 'Steddfod.

Beth yw dy atgof cyntaf/hoff atgof o'r Urdd?

Eistedd ar fainc ochr llwyfan neuadd Ysgol Maes Garmon drws nesaf i'm ffrind Siân. Roeddem yn aros ein tro i fynd i adrodd 'Y Bwji'. Tydw i ddim yn cofio'r perfformiad ond 'dw i'n cofio nad oeddwn yn ddigon da i gael cystadlu yn yr Eisteddfod Sir.

Wnes i erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd?

Roeddwn yn cystadlu'n aml. Y tro cyntaf i mi brofi llwyddiant oedd mewn cystadleuaeth Celf a Chrefft pan oeddwn tua 9 oed. Yna, yn Eisteddfod yr Urdd Gorseinon ym 1993, enillais i a Mari Lois y gystadleuaeth Ymgom 12-15.

Beth, yn dy farn di, yw'r peth gorau am yr Urdd?

Mae'r Urdd yn cynnig cymaint mwy na dim ond cystadlu. Mae'r Urdd (yn enwedig drwy ffurf yr Eisteddfod) yn cynnig y cyfle i bawb gymryd rhan mewn sawl modd gwahanol. Rwy'n cofio un Eisteddfod pan ddarganfyddais babell oedd yn cynnig gweithdai animeiddio am ddim. Fan 'no fues i drwy'r dydd bob dydd, wrth fy modd.

P'un yw dy ffefryn a pham - Gwersyll Llangrannog/Glan-llyn/Caerdydd?

Dim ond unwaith fues i'n aros yng Ngwersyll Llangrannog ond dwi'n cofio mwynhau'n fawr gan fod ganddynt feiciau BMX a quads. Arhosais yng Ngwersyll Glan-llyn droeon, gan fwynhau pob ymweliad.

At beth wyt ti'n edrych ymlaen fwyaf yn yr Eisteddfod?

Dychwelyd i fro fy mebyd a chael sgwrsio â hen wynebau. Mae hi wastad yn braf cael crwydro'r maes a busnesu yn yr holl stondinau.

Pa gystadleuaeth newydd hoffet ti weld yn rhan o'r Eisteddfod?

Cystadleuaeth Reslo Cymeriadau Cyw.

Sut fyddet ti'n disgrifio ardal y Fflint i bobl sydd erioed wedi bod yno o'r blaen?

Mae Sir y Fflint yn ardal hardd dros ben gyda'i bryniau a'i chestyll. Mae'r brodorion yn gyfeillgar iawn a dylanwad hiwmor y Sgowsar yn amlwg i'w glywed. Cymry hynod o falch a chroesawgar a geir acw. Efallai mai yn Llanelwy y ganwyd Ian Rush, ond y Fflint a fagodd un o arwyr mwyaf Cymru.