"Andros o brofiad i fab"

wyddfa

Blwyddyn yn ôl aeth Emyr Parry o Landwrog ger Caernarfon am dro ar gefn ei feic o amgylch ardal Dyffryn Nantlle. Roedd yn ddyn heini ac yn feiciwr profiadol, ac felly roedd beth ddigwyddodd nesaf iddo yn gwbl annisgwyl.

Cafodd Emyr drawiad ar y galon ar ochr y ffordd, ac daeth ei fab Amlyn yno i roi cymorth iddo, gan achub ei fywyd.

Eleni mae Emyr a grŵp o ffrindiau am gerdded i gopa'r Wyddfa i godi arian i'r Uned Gofal Dwys ym Mangor a'r Ambiwlans Awyr.

Cafodd Cymru Fyw air gyda'r ddau ynglŷn â'r digwyddiad a'r cynlluniau ar gyfer Dydd Sadwrn, 21 Mai:


"Methu mynd dim pellach"

"Ges i drawiad difrifol union flwyddyn yn ôl, er mod i'n berson ffit," meddai Emyr. "O'n i allan ar fy meic rhyw fore Sadwrn, a oedd yn beth cyffredin i mi wneud, ac mi ddechreuais i deimlo'n wan a cholli nerth, ac o'n i'n synhwyro bod rhywbeth yn bod.

"Nes i feicio 'chydig bach pellach ac yn penderfynu y byswn i'n beicio am adre, ac wrth wneud hynny nes i sylwi mod i'n methu mynd dim pellach. Nes i ffonio adre ac Amlyn y mab atebodd, felly wnes i ofyn iddo fo ddod i fy nôl i o Benygroes.

"Pan gyrhaeddodd Amlyn roeddwn i wedi mynd allan ohoni, roeddwn i wedi colapsio, ac roeddwn i yn amlwg yn cael trawiad y pryd hwnnw. Rhoddodd o CPR i fi yn y fan a'r lle - yn lwcus i mi roedd o wedi ei hyfforddi ac yn gwybod sut i wneud, ac heb amheuaeth fe achubodd fy mywyd.

Image caption Emyr Parry

"Fe alwodd Amlyn am yr ambiwlans, a mi 'naethon nhw gymryd drosodd. Roedd o'n andros o brofiad i fab orfod gwneud hynny i'w dad fel yna."

Gorwedd yn y lôn

Mae Amlyn yn cofio'r bore yn glir:

"Dwi'n cofio o'n i yn y tŷ yn bwyta brecwast pan 'nath Dad fy ffonio. Nat'h o ddweud bod o ddim yn teimlo'n dda, ac y byddai dyn arall yn disgrifio lle 'roedd o. Nes i siarad efo dyn o'r enw Graham o Lanfairpwll a oedd yn digwydd bod yno.

"Doeddwn i ddim yn nabod Graham o gwbl ar y pryd ond wnaeth o ddisgrifio yn union lle oedd Dad, rhwng Bontnewydd a Phenygroes.

"Es i yno yn syth yn y fan a roedd 'na ddyn yn sefyll yn y ffordd. Nes i ei ddilyn lawr y trac bach 'ma at y lôn feics, a dyna lle roedd Dad yn gorwedd yno yng nghanol y lôn.

"Nes ei roi yn y recovery position a deialu 999, ond tra o'n i'n siarad efo nhw fe wnaeth Dad stopio anadlu."

Image caption Emyr gyda'i wraig Trisha, a'r meibion, Meic ac Amlyn

Ofni'r gwaethaf

"Roedd Dad wedi newid lliw, yn wyrdd ac yn las yn ei wynab. Nath Graham gymryd drosodd ar y ffôn a wnes i ddechrau rhoi CPR. Wnes i hynny am 10 munud, gan gyfri y compressions a rhoi anadl iddo.

"O'n i'n gw'bod y dylwn i gario mlaen efo CPR nes i'r ambiwlans gyrraedd, ond pan gyrhaeddodd yr ambiwlans ro'n i'n siwr bod Dad wedi marw.

"Dwi'm yn meddwl bod y bobl ambiwlans yn gw'bod mod i'n fab iddo fo, ac mi ges i'n rhoi ar ochr arall yr ambiwlans, ac roedd yr heddlu wedi cyrraedd erbyn hynny. Roedden nhw'n rhoi siociau trydan iddo fo i drio cael curiad. Mi gawson nhw un gwan yn y diwedd felly fe roedd gobaith, ond un bychan.

"Cafodd yr ambiwlans awyr ei alw ac aethon nhw â Dad i Ysbyty Gwynedd, ond tra roedden nhw yn yr awyr cafodd o drawiad arall felly roedd rhaid gohirio y glanio yno. Es i yn y car heddlu i chwilio am Mam yng Nghaernarfon ac yna 'mlaen i Ysbyty Gwynedd. Erbyn i ni gyrraedd roedd Dad wedi cael lot o ocsigen felly roedd 'na well lliw arno.

"Mi 'nes i roi g'wbod i fy nghariad Heledd, ac mi roddodd hi wybod i Meic, fy mrawd, a oedd mewn gŵyl gerddoriaeth yn y de ar y pryd."

Blwyddyn o wella

Mi gymrodd hi flwyddyn i Emyr wella'n iawn ar ôl y trawiad: "Roeddwn i mewn coma am bump neu chwe diwrnod, ac yn yr ITU am ryw 10 diwrnod, ond i ddweud y gwir mae 'di cymryd tan rwan i mi adfer fy iechyd.

"Dwi 'di cael lot o gymorth dros y flwyddyn dd'wetha 'ma, dwi'n teimlo mod i'n nabod pob meddyg a nyrs yn Ysbyty Gwynedd bellach! Maen nhw wedi bod o gymorth mawr i mi, yn enwedig yr adran cardiac rehab, sydd yn rhyw fath o gym dan oruchwyliaeth - dwi'n mynd yno yn aml i drio adfer fy iechyd a chael fy ffitrwydd yn ôl.

"Dwi'n teimlo ddigon ffit i ddringo'r Wyddfa, a dwi'n gobeithio y bydda' i yn gallu ei wneud o yn iawn. Ond mae'r trawiad wedi cael effaith ar fy nwylo a fy mreichiau i.

"I bob pwrpas dwi 'di colli defnydd o'r law chwith, ond mae fy llaw dde yn gwella - mae honna yn well. Dwi'n medru gyrru car ers rhyw 'chydig wythnosau rwan. Felly er bod gen i anableddau o ganlyniad i be' ddigwyddodd, dwi di adfer fy ffitrwydd yn reit dda."

Image caption Roedd Amlyn Parry wedi gwneud cwrs cymorth cyntaf ychydig wythnosau cyn i'w dad gael trawiad

Codi arian

Mae'r teulu yn awyddus i godi arian at achosion da i ddangos eu gwerthfawrogiad o'r cymorth gawson nhw gan y meddygon a'u ffrindiau. Meddai Emyr:

"Os bydd y tywydd yn caniatau, bydd 'na griw mawr ohonon ni yn cerdded i gopa'r Wyddfa ddydd Sadwrn (21 Mai). 'Dwi wedi hel ymhell dros £1,000 ac yn hyderus 'na i ddyblu hynny cyn diwedd y peth.

"Dwi'n hynod o lwcus fod Amlyn y mab yn gallu gwneud CPR a bod y wybodaeth ganddo fo. Mae'r doctoriad yn rhyfeddu nid yn unig mod i wedi byw, ond mod i heb gael unrhyw niwed i'r ymennydd drwy ddiffyg ocsigen pan o'n i'n anymwybodol.

"Byswn i'n argymell i unrhyw un sydd yn cael y cyfle i wneud y cyrsiau cymorth cyntaf 'ma, gan ei fod o wedi achub fy mywyd i."

Mae Amlyn, sydd wedi ei hyfforddi i fod yn nyrs iechyd meddwl, hefyd yn gweld pwysigrwydd mewn cynnig hyfforddiant:

"Es i ar gwrs cymorth cyntaf chwe mis cyn i Dad gael ei daro'n wael, a dwi'n meddwl 'na'th hynny helpu. Mae'n hanfodol hefyd bod gan bobl yr hyder i ddefnyddio'r wybodaeth, achos os 'di rhywun yn nerfus ac ansicr mae'n bosib y bydden nhw'n cwestiynu eu gallu i wneud y petha' iawn.

"O'n i byth yn meddwl bysa Dad yn cael trawiad pan o'n i ar y cyrsiau cymorth cyntaf, ond heb y wybodaeth yna byddai Dad unai wedi marw, neu yn byw gyda niwed parhaol i'w ymennydd.

"'Da ni'n ddiolchgar iawn i staff Ysbyty Gwynedd am y gofal a gafodd dad yno, ac hefyd i'r teulu a ffrindiau sy' 'di bod yn gymaint o gefnogaeth dros y flwyddyn dwethaf."


Gallwch glywed sgwrs Emyr ac Amlyn gyda Aled Hughes ar ei raglen bore dydd Mercher, Mai 18.

Image caption Copa'r Wyddfa: Yr olygfa y bydd Emyr a'i ffrindiau yn gobeithio ei weld ddydd Sadwrn