Paul Trollope yn cael ei benodi fel rheolwr Caerdydd

Paul Trollope Image copyright Getty Images

Mae prif hyfforddwr Caerdydd, Paul Trollope wedi cael ei gadarnhau fel rheolwr newydd y clwb.

Mae'r cyn-chwaraewr canol cae Cymru, 43 oed, wedi bod yn rhan o staff hyfforddi'r clwb ers mis Chwefror 2015.

Cafodd Russell Slade ei dynnu o'i rôl fel rheolwr ar ddiwedd y tymor, ac ef nawr yw pennaeth pêl-droed yr Adar Gleision.

"Mae'n rhaid i ni fod yn uchelgeisiol a chael pawb o fewn y clwb i gredu yn yr hyn dy'n ni'n ei wneud yma," meddai Trollope.

"Y targed yw'r gemau ail gyfle a dyrchafiad, gobeithio."

Effaith ar Gymru

Mae Trollope, wnaeth dreulio pum mlynedd fel rheolwr Bristol Rovers, hefyd yn rhan o dîm hyfforddi Cymru.

Dywedodd y bydd yn aros yn ei rôl gyda'r tîm cenedlaethol ar gyfer pencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc fis nesaf.

"Dydw i ddim yn ei weld fel unrhyw fath o rwystr o ran paratoi ar gyfer y tymor newydd [gyda Chaerdydd]," meddai.

"Fe fydda i'n trafod ymarferoldeb parhau gyda Chymru ar ôl Euro 2016."