Tri pheth sy'n anodd nabod

Mae tri yn rhif hudolus medden nhw, ond o wylio sesiwn y Cynulliad y prynhawn yma mae'n taro dyn nad yw bod yn drydedd blaid yn y Cynulliad hwn yn lle swynol iawn i fod. Gyda Phlaid Cymru mwy neu lai yn penderfynu pa ddarnau o fusnes y Llywodraeth fydd yn cael eu gwireddu ac Ukip yn hawlio sylw trwy daflu tân gwyllt i bob cyfeiriad, roedd Andrew R.T Davies yn edrych yn ffigwr ymylol braidd heddiw, yn amherthnasol rhywsut, a gallasai hynny fod yn broblem ddifrifol dros y blynyddoedd nesaf.

Mae'r ymdrechion i ffurfio llywodraeth, llanast y Democratiaid Rhyddfrydol a llwyddiant Ukip wedi hawlio llawer o'r sylw ers yr etholiad. Efallai bod Andrew R.T Davies yn falch o hynny o gofio pa mor siomedig oedd perfformiad ei blaid wrth iddi syrthio yn ôl i'r trydydd safle a cholli ei statws fel y brif wrthblaid, ond megis cychwyn mae'r problemau.

Mae 'na ddau ar hugain o aelodau newydd sbon danlli yn y Cynulliad ond does dim un ohonyn nhw ar y meinciau Ceidwadol. Yr un hen wynebau sydd i'w gweld yn y fan yna ac mae'n deg i ddweud, rwy'n meddwl, nad yw'r grŵp ar y cyfan yn mynd i allu rhoi'r byd ar dân.

Y gwir amdani yw bod gwleidyddion o bleidiau eraill yn awchu i ddod i Gaerdydd erbyn hyn tra bod Ceidwadwyr uchelgeisiol i gyd a'u llygaid ar San Steffan. Mae hynny'n ddealladwy. Mae pob gwleidydd yn chwennych grym ac mae bod yn Aelod Cynulliad Ceidwadol bron mor bell o goridorau grym ac mae'n bosib bod.

Rwy'n amau y bydd y pum mlynedd nesaf yn rhai hir a rhwystredig i Geidwadwyr y Cynulliad. Fe drodd corff wnaeth gynnig cwch achub i'r blaid yn ei flynyddoedd cynnar yn dipyn o gell iddi erbyn hyn. Y peryg yw bod y blaid unwaith yn rhagor yn cael ei gwthio allan i ymylon ein gwleidyddiaeth genedlaethol ac yn diflannu o'r sgwrs.

Mae angen strategaeth newydd ar y blaid Gymreig - a hynny ar fyrder.