Marwolaeth A5: Cyhoeddi enw dyn ifanc fu farw

Trystan Rhun Roberts Image copyright Gwasanaeth Tan ag Achub
Image caption Trystan Rhun Roberts

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw dyn ifanc gafodd ei ladd mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yn Eryri.

Roedd Trystan Rhun Roberts yn gweithio fel mecanig dan hyfforddiant gyda Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd yng Nghyffordd Llandudno.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Mawrth 17 Mai ar ffordd yr A5 ger Capel Curig.

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân y gwasanaeth: "Mae ein cydymdeimlad heddiw gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad hwn, yn enwedig gyda theulu ein cydweithiwr yr ydym wedi ei golli.

"Mae ein gwasanaeth yn cael ei alw i wrthdrawiadau traffig yn aml ac maen nhw'n brofiadau anodd i'n staff ymdopi gyda nhw, ond yn fwy fyth yn achos cydweithiwr agos.

"Bydd cefnogaeth ar gael i unrhyw un yn y gwasanaeth yn dilyn y digwyddiad trist hwn."