Comics Cymraeg

Comics Cymraeg dros y blynyddoedd

Pwy sy'n cofio Defi John a Tomi Puw, Cai Jones y pêl-droediwr gwych a Chapten Penwaig a'i forlo ffyddlon, Moi?

Dyma rai o'r cymeriadau cartŵn Cymraeg y cafodd cenedlaethau o blant eu magu arnyn nhw.

Gyda Mellten, y "comic gwreiddiol Cymraeg cyntaf i blant ers degawdau" ar fin ychwanegu mwy o gymeriadau i oriel anfarwolion cartŵns Cymraeg mae Cymru Fyw wedi bod yn edrych nôl ar hanes y comic Cymraeg.

Dyma'r rhai rydyn ni wedi llwyddo i'w tyrchu o'r archif. Faint ydych chi'n eu cofio?

Hwyl

Image caption Cymerodd wyth mlynedd i'r rhifyn cyntaf o Hwyl ymddangos (chwith) ac fe barodd am 40 mlynedd dan olygyddiaeth Ifor Owen ar ôl marwolaeth y sylfaenydd DJ Williams

Er fod y cylchgrawn Cymru'r Plant wedi cael ei gyhoeddi ers 1892, Hwyl oedd y comic Cymraeg cyntaf.

Fe ymddangosodd yn 1949 ac roedd yn cynnwys cymeriadau fel Defi John a Tomi Puw, Meri Ann, Prisila Puw, Pero Bach, Shoni a Selwyn y Ddau Grwydryn, Now ac Elin a hefyd posau a thasgau i blant.

Gweledigaeth athro ac awdur llyfrau plant o Lanbedr, Meirionnydd, DJ Williams, oedd Hwyl.

"Roedd ar dân dros yr iaith Gymraeg ac yn arbennig i blant gael addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg," meddai Gwenith Baker, awdur cofiant i DJ Williams, Y DJ Arall,

"Roedd wedi dilyn yn ôl troed OM Edwards wnaeth lot yn y maes a chynhyrchu Cymru'r Plant ac yn y blaen.

"Ond roedd DJ yn gweld bod angen comic Cymraeg achos bod y plant o hyd yn dod i'r ysgol efo comics Saesneg."

Ond doedd hi ddim yn hawdd ac fe gymerodd wyth mlynedd i "freuddwyd fawr ei fywyd" ddod yn wir meddai Gwenith, gyda'r Ail Ryfel Byd, prinder papur, diffyg cyhoeddwr a hyd yn oed gwrthwynebiad i'r syniad yn torri ar draws ei gynlluniau.

"Roedd Syr Ifan ab Owen Edwards [golygydd Cymru'r Plant ers 1922] yn gwrthwynebu cael y comic yma, o achos mae'n debyg, ei fod yn ei weld fel cystadleuaeth i Cymru'r Plant," meddai gan awgrymu fod ymdrechion eraill wedi bod i rwystro'r cyflenwad papur ar gyfer y fenter.

Fe lwyddodd yn y pen-draw gyda Gwasg y Brython yn cyhoeddi ond chwe mis ar ôl i'w freuddwyd ddod yn wir bu farw ym mis Chwefror 1950. Prif ddylunydd y comic, Ifor Owen o Lanuwchllyn, a gymerodd yr awenau a chadw'r comic i fynd am bron i 40 mlynedd arall.

Ddaeth Hwyl ddim i ben tan 1989.

Hebog

Image caption Cai Jones a Jess Malone, creadigaethau Gerallt Lloyd Owen, oedd yn diddanu plant hŷn y 60au a'r 70au

Y Prifardd Gerallt Lloyd Owen oedd yn ysgrifennu a dylunio'r comic Hebog a ymddangosodd gyntaf yn 1968. Roedd yn cynnwys cartŵns am y cowboi Jess Malone, y sbei Dai Prydderch a'r pêl-droediwr poblogaidd Cai Jones, oedd yn aelod o dîm y Mellt. Roedd hefyd gymeriad o'r enw Nic Mellten!

Roedd yna bwyslais hefyd ar ddysgu am hanes Cymru gyda straeon am Owain Glyndwr ac Abraham Lincoln a'i wreiddiau Cymreig.

Roedd modd tanysgrifio i'r comic a chael bathodyn os oeddech yn aelod o'r Clwb.

Image caption Ydych chi'n adnabod rhywun sydd ar restr ymaelodi Clwb yr Hebog?

Aelod cyntaf clwb Hebog oedd y Prifardd Myrddin ap Dafydd.

"Mi ro'n i'n hogyn comics, fel pob hogyn bryd hynny mae'n siwr a gan fy mod i'n byw mewn siop lyfrau Cymraeg, mi wyddwn fod yna gomic Cymraeg newydd ar y gweill ac mi roedd yna hen edrych ymlaen amdano fo," meddai.

"Roedd Mam a Nhad wastad yn canfod bylchau yn y farchnad gyhoeddi Cymraeg ac yn gwaredu na fyddai gennym y peth yma a'r peth arall yn yr iaith.

"Dwi'n cofio gwirioni ar y cynnwys - Jess Malone y cowboi yn ebychu 'Myn cactws i!'; Cai Jones yn sgorio goliau dros Gymru a hanes Glyndwr mewn rheng o luniau. Nid yn unig roedd o'n Gymraeg, mi roedd o'n Gymreig hefyd - fel petae yn rhan o fy myd i."

Llinos

Image caption Llinos oedd 'Comic Merched Cymru'

Roedd Llinos yn chwaer gyhoeddiad i Hebog ac yn gomic ar gyfer merched, eto yn cael ei ysgrifennu a'i ddylunio gan Gerallt Lloyd Owen. Roedd yn cynnwys straeon Esyllt Merch y Jyngl, straeon ac erthygl am geffylau, stori am gi bach arwrol a straeon Sali Trwyn Smwt, merch fach ddireidus a'i throeon trwstan.

Roedd yna golofn Merched Enwog Cymru a ffaith ddifyr o bob cwr o'r byd ar ben bob tudalen. Dyma un ohonynt: 'Mae addolwyr Mohammed yn gweddio bum gwaith y dydd'. Mewn un rhifyn roedd poster o Hogia'r Wyddfa ar y dudalen gefn!

Roedd Llinos a Hebog yn cael eu cyhoeddi gan Wasg Gwynedd wedi iddo gael ei sefydu yn 1972 gan Gerallt Lloyd Owen ac Alwyn Ellis.

Sboncyn

Image caption Roedd Sboncyn yn gomic poblogaidd yn yr 1980au ac yn cael ei ddosbarthu mewn ysgolion.

Pwy sy'n cofio anturiaethau Capten Penwaig, Syr Preis a Syr Cas, Wini Wirion a Theulu Jac Do a cholofn fisol o jôcs a phosau gan 'Slim', cyflwynydd Yr Awr Fawr?

Un oedd yn gweithio ar Sboncyn, 'Comic Plant Cymru', yn y 1980au gyda'r diweddar Dafydd Mei yng Ngyhoeddiadau Mei ym Mhenygroes oedd y newyddiadurwr Rhys Owen.

Meddai: "Mi gofia'i mai fi oedd y ieuenga' o'r criw yn Cyhoeddiadau Mei ym Mhenygroes.

"Ond, a dweud y gwir, roeddan ni i gyd o'r un oed feddyliol ac yn ryw bwffian chwerthin am bethau hynod blentynaidd. Gang ddelfrydol, felly, i weithio ar gomic.

"Roedd yna werthiant mawr i Sboncyn trwy Gymru, a 'dwi'n gobeithio yn arw y bydd Mellten yn cael llwyddiant tebyg.

"Dyddiau da oedd rheiny yn sgrifennu straeon i Sboncyn. 'Lawr allt aeth fy ngyrfa ar ôl hynny, beryg'."

Ray Aspden oedd dylunydd ac awdur cartŵns Jac Do ac Alys Ofalus yn Sboncyn.

Penbwl

Cafodd Sboncyn ei ail lawnsio fel Penbwl yn 1989 a pharodd am rai blynyddoedd cyn i'r cymorth grant ddod i ben.

Fe weithiodd Ray Aspden ar rai o stripiau cartŵn Penbwl hefyd ac roedd Mari Gwilym yn gyfrifol am stori Huwi Hurt.

Roedd yna gartŵn o anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan yn Penbwl a Sboncyn hefyd.

Wcw a'i ffrindiau

Image copyright Golwg

Cylchgrawn i blant 3-7 oed ydy Wcw ond mae'n cynnwys llawer o gartŵns am gymeriadau adnabyddus fel Rwdlan, Sali Mali ac yn newydd eleni Dewin a Doti, cymeriadau'r Mudiad Meithrin.

Mae stribedi cartŵns gwreiddiol ynddo hefyd fel Cwch Gwenyn, Twmff y Gath a Twm Tomato sy'n cael ei ddylunio gan y cartwnydd Mumph.

Golwg yw cyhoeddwyr Wcw ac yn ôl Owain Schiavone, Prif Weithredwr Golwg 360, un elfen hollbwysig o'r cylchgrawn ydy'r daflen sy'n helpu rhieni di-Gymraeg i ddarllen y cylchgrawn gyda'u plant.

Cymru'r Plant a Cip

Nid comic oedd Cymru'r Plant ond efallai mai i'r cyhoeddiad yma mae'r diolch am ddechrau'r traddodiad o gylchgronau a chomics Cymraeg i blant.

Yr addysgwr a'r llenor OM Edwards a sefydlodd Cymru'r Plant yn 1892 er mwyn dysgu plant Cymru am ddiwylliant eu gwlad. Yn 1922 daeth ei fab, Syr Ifan ab Owen Edwards, yn olygydd a sefydlu Urdd Gobaith Cymru yr un pryd.

Cyflwynwyd rhai stribedi cartŵn i'r cylchgrawn yn ddiweddarach, nifer gan yr arlunydd Robin Griffith.

Yr Urdd fu'n cyhoeddi'r cylchgrawn wedyn a newidiodd ei enw i Cip yn 1987.

Mae'r mudiad hefyd yn cyhoeddi cylchgrawn i ddysgwyr cynradd, Bore Da ac i ddisgyblion uwchradd, Iaw.

A chyn Cymru'r Plant roedd yna gyhoeddiadau gan enwadau crefyddol i blant: Yr Athraw i Blentyn (1827-1918); Tywysydd yr Ieuainc (1837-51); Y Winllan (1848-1965) a Thrysorfa'r Plant dan olygyddiaeth Thomas Levi ar ran cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn 1867.

A'r babi newydd .... Mellten

Image copyright Y Lolfa

"Y syniad oedd creu rhywbeth newydd a gwreiddiol i blant fyddai ddim ond ar gael yn y Gymraeg," meddai golygydd Mellten Huw Aaron.

Mae Huw yn gweld Mellten fel etifedd i'r llinach o gomics sydd wedi mynd o'i flaen ac mae'n gobeithio bod lle i atgyfodi elfennau ohonyn nhw ar wefan y comic newydd.

"Fydde'n neis i wefan Mellten fod yn borth i bethe eraill sydd allan yna. Faswn i'n licio petase'r hen gomics yma o'r 70au 80au a'r 90au - y goreuon o leia - yn gallu cael eu digideiddio rywsut a bod na ryw fath o archif yn gallu bod yna, dim er mwyn rhesymau academaidd sych ond oherwydd fod 'na lot o stwff neis mae pobl wedi ei wneud fel bod nhw ddim yn cael eu anghofio ond yn ogystal fel bod plant y genhedlaeth nesaf yn gallu eu mwynhau.

"Os oes gan unrhyw un gopïau o'r hen gomics 'ma fyse'n grêt eu gweld nhw yn cael darlleniad arall," meddai.

Ewch i'r atig i dyrchu!

Hefyd ar y BBC