Achub dyn o Afon Taf yng Nghaerdydd

A48 Image copyright Google

Mae'r gwasanaethau brys wedi achub dyn oedd wedi mynd i mewn i afon yng Nghaerdydd.

Cafodd swyddogion eu galw i'r digwyddiad yn Afon Taf ger ffordd yr A48, Rhodfa'r Gorllewin, yn y ddinas.

Mae'r heddlu a pharafeddygon yn bresennol, ac mae'r dyn bellach wedi cael ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.

Nid oes unrhyw wybodaeth am gyflwr y dyn ar hyn o bryd.