Taekwondo: Aur i Lauren Williams

Lauren Williams Image copyright BBC Sport

Mae Lauren Williams wedi ennill medal aur yng nghategori 67kg y Pencampwriaethau Taekwondo Ewropeaidd.

Llwyddodd Williams, 17, i guro Nur Tatar o Dwrci o 4-3 yn y rownd derfynol.

Dyma oedd ail gystadleuaeth Williams yn 2016 ar ôl iddi gael llawdriniaethau ar ei ffêr.

Dywedodd Williams, o'r Coed Duon: "Doeddwn i ddim yn disgwyl medal, heb sôn am aur."

Williams yw'r ail Gymraes i ennill medal yn y gystadleuaeth, wedi buddugoliaeth Jade Jones ddydd Gwener.