Morgannwg yn cyrraedd 260 yn y batiad cyntaf

Graham Napier
Image caption Llwyddodd Graham Napier i gymryd 5-82 ar ddiwrnod cyntaf y chwarae

Graham Napier oedd seren y dydd i Essex gan gymryd 5-82 wrth i Forgannwg sgorio 260 yn eu batiad cyntaf y gêm ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Dyma oedd y 15fed tro i Napier, sy'n 36 ac yn ymddeol ar ddiwedd y tymor, gymryd pum wiced mewn batiad.

Chris Cooke oedd prif sgoriwr Morgannwg yng Nghaerdydd gan gyrraedd 63, tra bod Craig Meschede ac Andrew Salter wedi rhoi peth obaith i'r tîm cartref.

Llwyddodd Essex i gyrraedd 29-1 yn yr awr olaf o chwarae, Nick Browne gollodd ei wiced i fowlio Graham Wagg.

Ar ddiwedd y chwarae roedd Morgannwg ar y blaen o 231 o rediadau.