Babi fu farw wedi dioddef anafiadau 'catastroffig'

Finley Thomas Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Finley Thomas yn 17 mis oed pan fu farw yn ei gartref

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod babi 17 mis oed fu farw wedi dioddef anafiadau catastroffig yn dilyn ymosodiad gan gariad ei fam.

Roedd gan Finley Thomas anafiadau difrifol i'w ben yn dilyn ymosodiad honedig yn ei gartref.

Mae Sean Buckley, 28 oed, yn wynebu cyhuddiad o lofruddio'r bachgen.

Cafwyd hyd i'r plentyn yn anymwybodol yn ystafell fyw ei gartref, a bu farw yn hwyrach yn yr ysbyty oherwydd anafiadau i'w ymennydd.

Yn ôl yr erlyniad roedd tystiolaeth yn dangos bod Finley wedi dioddef cyfres o ymosodiadau cyn ei farwolaeth.

Image copyright Wales News Service
Image caption Mae Chloe Thomas yn gwadu cyhuddiad o fod yn greulon i berson ifanc o dan 16

Clywodd y llys bod mam y plentyn, Chloe Thomas, wedi dweud celwydd wrth y gwasanaethau brys ar ôl dweud bod y babi wedi disgyn lawr y grisiau.

Ond yn ôl yr erlyniad roedd Chloe Thomas a Sean Buckley wedi cam-drin y plentyn yn gorfforol, ac wedi dweud celwydd er mwyn ceisio cuddio'r gwirionedd.

Mae Mr Buckley yn gwadu iddo lofruddio'r bachgen, ac mae, ynghyd â Ms Thomas, yn gwadu cyhuddiad o fod yn greulon i berson ifanc o dan 16.

Mae'r disgwyl i'r achos barhau ym 5 wythnos.