Toriadau S4C: 'Amharu ar hawliau plant'

TV production gallery

Mae dwy ddarlithwraig yn y gyfraith o Brifysgol Bangor yn honni ei bod yn bosib fod y toriadau i gyllid S4C yn groes i hawliau plant yn ôl canllawiau'r Cenhedloedd Unedig.

Fe wnaeth cyllid S4C ostwng o £101m yn 2009 i £80m yn 2016-17.

Yn ôl Dr Alison Mawhinney a Carys Aaron fe allai hyn dramgwyddo hawl plentyn i wybodaeth yn eu mamiaith fydd o fudd "cymdeithasol a diwylliannol".

Mae'r darlithwyr yn dadlau y gallai'r toriadau i gyllid y Sianel fod yn groes i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn.

Dywed Dr Mawhinney a Ms Aaron ei bod yn bosib hefyd fod y toriadau yn tramgwyddo hawl plentyn wrth gyfyngu ar "allu S4C i gynnig ei gynnwys a'i wasanaethau ar draws ystod eang o gyfryngau gwahanol."

"Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gydnabod y rôl allweddol a chwaraeir gan S4C - fel yr unig ddarparwr yn unman o raglenni iaith Gymraeg i blant - o ran parchu, hyrwyddo, amddiffyn a chyflawni hawliau plant yng Nghymru a thu hwnt yng nghyswllt Erthyglau 13, 17 a 29 y Confensiwn," esboniodd Dr Mawhinney, Darllenydd yn y Gyfraith.

'Adolygiad eang'

Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod o'r drwydded deledu yn hytrach nac o goffrau llywodraeth San Steffan.

Ym mis Ionawr dywedodd gweinidogion na fyddant yn parhau gyda'r toriadau oedd wedi eu cynllunio ar gyfer y flwyddyn gyntaf wrth iddynt geisio lleihau eu cyfraniad i'r gwasanaeth o 36.7m i £5m erbyn 2020.

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Diwylliant John Whittingdale hefyd gyhoeddi "adolygiad eang" o gyllido a llywodraethiant S4C.

"Cafodd S4C ei greu gan lywodraeth Geidwadol ac mae llywodraeth y DU wedi ymroi i gefnogi'r gwasanaeth gwerthfawr sy'n cael ei ddarparu gan s4C i gynulleidfaoedd Cymraeg eu haiith, " meddai.