Gŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll yn agor

Darllen Image copyright Finn Beales

Bydd awduron o Gymru yn serennu gydag awduron rhyngwladol a siaradwyr gwadd yng Ngŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll eleni.

Mae'r ŵyl yn cychwyn ddydd Iau ac fe fydd yn parhau tan 5 Mehefin.

Fe fydd digwyddiadau am ddim i ysgolion ar ddechrau'r ŵyl, a hefyd fe fydd rhaglen lawn o sgyrsiau a pherfformiadau gan awduron, actorion, cerddorion a gwleidyddion.

Bydd Syr Tom Jones, yr actores Olivia Coleman a chynhyrchydd ffilmiau James Bond, Sam Mendes, ymysg y sêr fydd yn cymryd rhan.

Bydd bardd cenedlaethol newydd Cymru, Ifor ap Glyn, yn dechrau yn ei swydd yn ystod yr ŵyl, ac fe fydd 20 o awduron ifanc o Gymru'n cymryd rhan mewn gweithgareddau i hybu eu gyrfaoedd.

Image copyright Finn Beales

Dywedodd cyfarwyddwr yr ŵyl, Peter Florence, fod dadeni wedi bod mewn ysgrifennu o Gymru'n ddiweddar.

"Mae na genhedlaeth sydd yn torri tir newydd sy'n gwbl wych, ac mae llawer ohonynt yn dod yma dros y dyddiau nesaf.

"Mae rhai ohonyn nhw wedi bod yn dod yma ers iddyn nhw fod yn blant, gan ddod gydag ysgolion, a nawr maen nhw yma. Yn ysgrifennu gwaith gwych, newid ein bywydau, yn ymestyn allan, gwneud cysylltiadau, ac yn gwneud y cysylltiadau dynol rhyfeddol hynny y mae awduron yn gallu ei wneud.

Dywedodd fod yr ŵyl, sydd yn cael ei chynnal ers 29 o flynyddoedd eleni, wedi cefnogi awduron Cymreig yn gyson dros y blynyddoedd.

"Rydych yn cael gwefr o'r ffaith fod Owen Sheers a Fflur Dafydd nawr yn enwau mawr mewn gwyliau llenyddol ar hyd a lled y byd.

"Yr awdur cyntaf i ni ei dalu yn 1988 oedd Gillian Clarke, a nid dyma'r un Gillian Clarke gwych sydd ganddo ni heddiw ac ers amser maith. Mae'r bobl hyn, sydd wedi bod gyda ni ac wedi'n cefnogi dros yr holl flynyddoedd, wedi dychwelyd a gwneud ffrindiau newydd a dod â'u ffrindiau nhw. A dyna sut mae'n tyfu a dweud y gwir."

Fe fydd y BBC yn darlledu nifer o raglenni o'r ŵyl.