Wyres yn dysgu am gyfraniad ei nain i addysg Gymraeg

Mary Roberts a Megan
Image caption Mary Roberts a'i hwyres, Megan

Pan ddechreuodd Mary Roberts ar ei swydd fel athrawes yn ysgol cyfrwng Cymraeg gynta'r gogledd yn y 1950au, ychydig y sylweddolai ei bod ar flaen y gad yn y ffordd y cai plant yng Nghymru eu dysgu am genedlaethau i ddod.

Erbyn hyn, dros 60 mlynedd yn ddiweddarach, gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol, mae wyres Mary, Megan, yn rhan o brosiect sy'n edrych yn ôl dros y dyddiau cynnar hynny, gan ddangos sut y datblygodd ac y ffynnodd addysg Gymraeg dros y blynyddoedd, a dathlu pwysigrwydd yr iaith yn Sir y Fflint.

Mae gan Mary, sydd nawr yn 85 oed, atgofion byw iawn o'i chyfnod yn Ysgol Glanrafon, yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf yn y Gogledd a'r drydedd drwy Gymru.

"Er ein bod i gyd yn ifanc a brwdfrydig dros yr iaith dydw i ddim yn credu fod gan unrhyw un ohonom syniad o ba mor arwyddocaol oedd ein gwaith - ein bod yn arloeswyr yn y maes," meddai.

"Yn y capel yr oedden ni'n cyfarfod yn wreiddiol, dim ond 8 disgybl oedd gennym ac roedd y cyfan yn gymaint o hwyl.

"Mae'n debyg fod llawer yn credu na fyddai'n parhau, ond roeddem i gyd yn benderfynol o wneud iddo lwyddo - ac erbyn hyn mae'n gwneud imi deimlo'n falch fy mod wedi chwarae fy rhan.

"Mae'n rhyfedd fod fy ngyrfa wedi troi mewn cylch, wrth i'r mab Dafydd dderbyn addysg Gymraeg, a Megan nawr yn awyddus i edrych yn ôl a myfyrio ar y dyddiau cynnar hynny yng Nglanrafon."

Image caption Yn ysgoldy capel Bethesda, yr Wyddgrug, yr agorodd Ysgol Glanrafon ym 1949

Bydd prosiect Taith yr Iaith yn rhan o arddangosfa gan Ysgol Maes Garmon fydd i'w gweld yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Fflint, wedi iddi gael arian o raglen Gwreiddiau Ifanc Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ym marn wyres Mary, Megan, sy'n 17 oed, mae'n bwysig peidio anghofio ymdrechion pobl fel ei nain: "Gall fod yn hawdd inni gymryd y Gymraeg yn ganiataol, ond mae angen inni gofio nad yw mor bell â hynny'n ôl pan oedd plant yn cael eu cosbi am siarad yr iaith yn yr ysgol, heb sôn am gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Mae cymryd rhan yn y prosiect hwn wedi gwneud imi sylweddoli y bu'n rhaid i grŵp bach o bobl ymladd o ddifrif i sicrhau bod hynny'n digwydd.

"Bydd ein harddangosfa yn yr Urdd nid yn unig yn dathlu pobl fel fy nain ac athrawon eraill tebyg iddi, a'u hymroddiad i adfywio'r Gymraeg, ond bydd yn dangos hefyd sut mae'r iaith honno y buont yn ymladd mor ddygn drosti yn cael ei defnyddio yn Sir y Fflint heddiw."

Llyfr newydd

Yn ychwanegol at yr arddangosfa, caiff llyfr newydd ei lansio i groniclo datblygiad y Gymraeg yn y gymuned, ac fe gyhoeddir cân newydd, a ysgrifennwyd ac a gyfansoddwyd mewn partneriaeth â'r canwr adnabyddus, Arfon Wyn.

Mae Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, Richard Bellamy yn pwysleisio pwysigrwydd rhaglen Gwreiddiau Ifanc.

"Mae cael pobl ifanc i ymddiddori a chymryd rhan mewn prosiectau treftadaeth yn un o'n prif flaenoriaethau - rydym eisiau dangos fod gan bawb, o bob oed, rywbeth i'w ennill o ymddiddori mewn hanes," meddai.

"Cafodd prosiect Taith yr Iaith ei lywio gan y bobl ifanc eu hunain ac mae'n enghraifft berffaith o sut allwn archwilio ein gorffennol, i weld sut y mae wedi effeithio ar ein bywydau heddiw.

"Er y gall pobl ifanc ddatblygu sgiliau a syniadau newydd trwy ein prosiectau, gallant hefyd gynnig syniadau ffres a brwdfrydedd sydd o fudd i bawb."