Buddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg

Criced Image copyright Getty Images

Roedd na fuddugoliaeth gyfforddus i Forgannwg yn eu gêm gynta yn y gystadleuaeth 20 pelawd oddi cartef yn Surrey.

Roedd y tim cartref allan i gyd am 93 o rediadau ac fe lwyddodd Morgannwg i gyrraedd y nod gyda 46 o beli yn weddill.

Y gŵr o'r Iseldiroedd Timm van der Gugten oedd y seren i'r ymwelwyr wrth iddo hawlio pedair wiced gan ildio 14 o rediadau yn unig.

Yn eu hymateb fe darodd David Lloyd 31 wrth i Forgannwg gyrraedd y targed yn hawdd.