Dan Lydiate i arwain Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Sul

Dan Lydiate Image copyright Huw Evans picture agency

Dan Lydiate fydd capten Cymru wrth iddyn nhw herio Lloegr yn Twickenham dydd Sul.

Mae Warren Gatland wedi enwi Lydiate i arwain y tîm oherwydd absenoldeb Sam Warburton gydag anaf i'w ysgwydd.

Blaenasgellwr Caerloyw, Ross Moriarty fydd yn cymryd lle Warburton yn y rheng ôl, gyda Lydiate yn symud i chwarae fel rhif saith.

Mae'r clo, Alun Wyn Jones yn dechrau yn dilyn anaf i'w sawdl, ond dyw'r prop, Paul James ddim yn holliach ar ôl anafu ei goes.

Mae pâr o'r Scarlets, Samson Lee a Scott Williams ar gael i ddechrau hefyd, er iddyn nhw fethu diwedd tymor y Pro12.

'Gêm bwysig'

Dywedodd Warren Gatland: "Wrth edrych tuag at gyfres yr haf (yn erbyn Seland Newydd) mae'n gêm bwysig iawn i'r garfan.

"Roedden ni'n teimlo bod angen paratoi trylwyr ar gyfer y daith, ac fe fydd y gêm yn erbyn Lloegr yn sicrhau hynny.

"Mae 'na gryn dipyn o brofiad yn y garfan a bydd hynny'n allweddol i ni yn ystod yr wythnosau nesaf."

Mae Lloegr wedi cyhoeddi eu tîm hefyd, gyda blaenasgellwr Northampton, Teimana Harrison yn ennill ei gap cyntaf i'r Saeson.

Tîm Cymru:

Liam Williams, George North, Scott Williams, Jamie Roberts, Hallam Amos; Dan Biggar, Rhys Webb; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee, Jake Ball, Alun Wyn Jones, Ross Moriarty, Dan Lydiate (Capten), Taulupe Faletau.

Eilyddion: Kristian Dacey, Gethin Jenkins, Rhodri Jones, Josh Turnbull, James King, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Gareth Anscombe.

Tîm Lloegr:

Mike Brown, Anthony Watson, Jonathan Joseph, Luther Burrell, Marland Yarde: George Ford, Ben Youngs; Matt Mullan, Dylan Hartley, Dan Cole; Joe Launchbury, Courtney Lawes; Teimana Harrison, James Haskell, Jack Clifford.

Eilyddion: Tommy Taylor, Ellis Genge, Paul Hill, Dave Attwood, Matt Kvesic, Danny Care, Ollie Devoto, Elliot Daly.

Gemau Cymru yn yr haf

  • 29 Mai: Lloegr (Twickenham)
  • 11 Mehefin: Seland Newydd (Auckland)
  • 14 Mehefin: Waikato Chiefs (Hamilton)
  • 18 Mehefin: Seland Newydd (Wellington)
  • 25 Mehefin: Seland Newydd (Dunedin)

Straeon perthnasol