'Dim rheswm i ohirio'r Gemau Olympaidd'

Brian Davies, Sport Wales' elite performance director
Image caption Brian Davies: Dim rheswm i ohirio'r Gemau

Mae Cyfarwyddwr Perfformiad Elit Cymru wedi dweud nad yw e'n gweld unrhyw reswm i ohirio'r Gemau Olympaidd yn Rio oherwydd y firws Zika.

Daw sylwadau Brian Davies ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd wrthod galwadau i symud neu ohirio'r gemau Olympaidd dros yr haf yn sgil pryderon am y firws.

Mae dros 150 o wyddonwyr wedi arwyddo llythyr i Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y dylid gohirio'r gemau.

I'r rhan fwyaf o ddioddefwyr yr haint, dyw'r symptomau ddim yn ddifrifol, ond mae'n gallu creu niwed difrifol a pharhaol i fabanod yn y groth.

Mae'r firws hefyd yn gallu achosi problemau niwrolegol i oedolion.

Mae 15 o athletwyr o Gymru eisoes yn gwybod y byddant yn teithio i'r Gemau yn Brasil sy'n cael eu cynnal ym mis Awst.

Dywedodd Brian Davies fod yr athletwyr yn canolbwyntio ar eu perfformiad a bod y clefyd "yng nghefn eu meddyliau."

"Mae ganddynt ffydd yn y sefydliadau sydd â'r gwaith o sicrhau eu bod nhw'n ddiogel, ac y byddant yn dychwelyd adre yn saff.

"Mae'r llythyr yn ddiddorol ond dyw e heb newid llawer.

"Rydym yn darparu'r cyngor swyddogol a dyw hynny ddim wedi newid ac mae'r cyngor yn syml gan ofyn i'r athletwyr fod yn ymwybodol o'r ffaith fod yna broblem, i wisgo yn addas, osgoi llefydd lle mae'r mosgito ac i ddefnyddio'r chwistrellau addas. "

Image copyright Getty Images
Image caption Bydd y Gemau yn cael eu cynnal ym mis Awst.