Medal y Dysgwyr: Cymru Fyw yn holi

medal dysgwyr
Image caption Bu Cymru Fyw yn holi Bradley, Megan (canol) a Hannah yn rhan o gystadleuaeth Medal y Dysgwyr

Mae Medal Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd wedi ei thrawsnewid eleni. Am y tro cyntaf, mae'r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar gyfathrebu yn Gymraeg yn hytrach na darn ysgrifenedig, a terfyn yr oedran cystadlu yn cael ei ymestyn o 19 i 25 oed.

Y tri sydd wedi cyrraedd y brig, ac wedi eu gwahodd i Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint yw Hannah Eve Cook sy'n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Megan Elias sydd yn wreiddiol o Hen Golwyn ond bellach yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor a Bradley Jones sydd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol John Bright, Llandudno.

Mae'r beirniaid, Nia Parry ac Enfys Davies, wedi bod yn dilyn Bradley, Hannah a Megan o gwmpas y maes, ac mae'r enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mhrif seremoni'r dydd yn y pafiliwn cyn diwedd pnawn Mawrth.

Bu'r tri yn annerch cynhadledd y wasg ac yn gweithio yn y ganolfan groeso ar y maes. Wedi hynny, bu gohebydd Cymru Fyw, Elliw Mai yn eu holi.

Pam dysgu Cymraeg?

Roedd y tri - Bradley, Hannah a Megan - yn credu fod siarad Cymraeg yn rhan annatod o fod yn Gymro, er fod y tri wedi dechrau dysgu Cymraeg ar adegau gwahanol.

Roedd Bradley yn siarad Cymraeg gyda'i daid pan oedd o'n ifanc, ac yn awyddus i ail-afael yn yr iaith cyn mynd i'r brifysgol. Mae Megan wedi ymgartrefu yn Neuadd JMJ ym Mhrifysgol Bangor, a Hannah wedi symud i Gymru dair blynedd yn ôl a phenderfynu mynychu ysgol uwchradd Gymraeg.

Mae Bradley'n awyddus "i ail-gyflwyno'r Gymraeg i 'nheulu, er mai Saesneg ydy iaith y tŷ ar hyn o bryd".

Yn ôl Megan, "diddordeb yn yr iaith a hanes Cymru, a'r awydd i fod yn ddwyieithog" oedd wrth wraidd ei phenderfyniad hi i fynd ati, ac roedd Hannah yn edrych 'mlaen at "gyfathrebu gyda ffrindiau newydd yn eu hiaith gynta' nhw."

Ychwanegodd ei bod "eisiau bod yn rhan o fywyd yr ysgol, ac yn rhan o'r wlad".

Image caption Gohebydd Cymru Fyw, Elliw Mai fu'n holi'r tri sydd wedi dod i'r brig eleni

Newid trefn y gystadleuaeth

Wrth i ganolbwynt y gystadleuaeth newid eleni, gan bwysleisio ar gyfathrebu yn hytrach nag ysgrifennu, roedd Bradley, Hannah a Megan oll yn credu fod y newid yn un positif, ac yn rhoi cyfle i'r cystadleuwyr ddangos mwy o sgiliau.

"'Da ni gyd yn sgwrsio yn Gymraeg bob dydd," meddai Bradley, "ond anaml iawn fyddai'n mynd ati i 'sgwennu traethawd. Neges destun Gymraeg, 'falle!"

Roedd cyfle i'r holl gystadleuwyr fynd i ddiwrnod o weithgareddau yng ngwersyll Glan-llyn er mwyn dewis y rhestr fer. "Roedd yn ddiwrnod anhygoel," yn ôl Megan. Ychwanegodd fod cyfarfod yr holl ddysgwyr eraill wedi bod yn werthfawr.

Ar ôl symud i Gymru dair blynedd yn ôl i gyrraedd rhestr fer Medal y Dysgwyr, dydi Hannah "ddim yn credu'r daith dw i wedi bod arni hi. Ma' 'sgwennu a siarad yn ddwy sgil mor wahanol. Nes i gael fy nysgu i siarad yn gynta', cyn mynd ati i ddysgu ysgrifennu yn Gymraeg."

Oherwydd hynny, mae Hannah yn credu fod y pwyslais ar gyfathrebu eleni yn hynod bwysig.

Y dyfodol

Parhau i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd ydy'r nod yn ôl Bradley, Megan a Hannah.

Mae Bradley yn mynd i Brifysgol Caerdydd ym mis Medi i astudio'r Gyfraith, ac wedi gwneud cais am lety iaith Gymraeg. "Dw i eisiau aros yng Nghymru, a dw i eisiau magu teulu yn Gymraeg," meddai.

Yn ôl Megan, mae siarad Saesneg yn her pan mae hi'n ymweld â'i rhieni. "Dydw i ddim yn siarad Saesneg o gwbl yn y coleg ym Mangor, felly dw i'n dw i'n trio sgwrsio yn Saesneg efo fy rhieni ac yn rhoi geiriau Cymraeg ynghanol brawddegau, heb sylwi.

Dw i'n siarad Cymraeg bob dydd ac eisiau cario 'mlaen i wneud hynny."

Mae Hannah ynghanol ei arholiadau TGAU ar hyn o bryd, ac yn sefyll pob arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi'n gobeithio mynd ymlaen i'r chweched dosbarth ac astudio Cymraeg fel pwnc Lefel A. "Dw i byth eisiau rhoi'r gorau i siarad Cymraeg.

Dw i yma yng Nghymru rwan, ma' pawb yn siarad Cymraeg o 'nghwmpas i, dw i'n dysgu pethau newydd bob dydd."