Chris Coleman i gyhoeddi carfan o 23 ar gyfer Euro 2016

Dathlu Image copyright Getty Images
Image caption Bydd rhaid i Chris Coleman wneud penderfyniad ynglŷn â ffitrwydd Joe Ledley

Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn cyhoeddi enwau'r 23 chwaraewr fydd yn y garfan ar gyfer Euro 2016 yn Ffrainc brynhawn Mawrth.

Cafodd 29 chwaraewr eu cynnwys mewn carfan hyfforddi sydd wedi bod yn ymarfer ym Mhortiwgal yr wythnos diwethaf.

Bellach mae Gareth Bale wedi ymuno gyda'r garfan ar ôl buddugoliaeth gyda'i glwb Real Madrid yng Nghynghrair y Pencampwyr, ond mae'r ymosodwr Tom Bradshaw a'r amddiffynnwr Adam Henley wedi gadael oherwydd anafiadau.

Bydd gan Coleman benderfyniad anodd i'w wneud ynglŷn â ffitrwydd Joe Ledley, sydd wedi bod yn brwydro i fod yn holliach ers iddo dorri ei goes tra'n chwarae i Crystal Palace ar 7 Mai.

Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Ledley ei frifo tra'n chwarae yn erbyn Stoke ddechrau Mai

Mae Ledley wedi bod yn ymarfer ym Mhortiwgal gyda'r garfan ond mae Coleman wedi cyfaddef: "Dyma'r penderfyniad mwyaf anodd fydd gen i."

Bydd Cymru yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Sweden ar 5 Mehefin cyn dechrau'r gystadleuaeth yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin yn Bordeaux.

Lloegr fydd y gwrthwynebwyr pum niwrnod yn ddiweddarach, cyn i ddynion Coleman wynebu Rwsia yn y gêm olaf yng ngrŵp B.

Carfan ymarfer Cymru: Hennessy, Fôn Williams, Ward, A Williams, Davies, Collins, Chester, Taylor, Gunter, Richards, Dummett, Matthews, Henley, Ramsey, Ledley, Allen, J Williams, Edwards, King, Vaughan, Huws, Robson Kanu, Vokes, Church, Cotterill, G Williams, Bradshaw, Lawrence, Burns.