Dyn wedi marw ar ôl disgyn o draphont ddŵr Pontcysyllte

Y draphont

Mae dyn ifanc wedi marw ar ôl disgyn o draphont ddŵr Pontcysyllte.

Dywed yr heddlu ei bod wedi cael gwybod am y digwyddiad toc wedi 01:00.

Mae teulu'r dyn 18 oed wedi cael gwybod ac mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.