Cymdeithas yr Iaith: 'Angen trawsnewid addysg Cymru'

Protest eisteddfod

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, "mae 26,581 o blant yn cael eu hamddifadu" o'r cyfle i fedru'r Gymraeg bob blwyddyn oherwydd y system addysg.

Mae Cymdeithas yr Iaith eisiau i'r llywodraeth weithredu ar argymhellion adroddiad Yr Athro Sioned Davies, sy'n cynnwys dileu'r cysyniad o Gymraeg ail iaith a chyflwyno peth addysg cyfrwng Cymraeg i bob disgybl.

Er mwyn tynnu sylw at y mater, fe ddangosodd ymgyrchwyr rifau o flaen stondin Llywodraeth Cymru i gynrychioli'r 78% o blant saith mlwydd oed nad ydynt yn cael cyfle i fod yn rhugl yn Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi "ymrwymo'n llawn" i ddatblygiad addysg cyfrwng Cymraeg yn Nghymru.

Fe ymunodd cynrychiolydd undeb athrawon UCAC a Nick Thomas o'r mudiad Syfflag - sy'n ymgyrchu dros addysg Gymraeg yn Sir y Fflint gyda Toni Schiavone o Gymdeithas yr Iaith.

'Arwain y gad'

Fe ddywedodd Nick Thomas: "Ar un adeg, roedd Sir y Fflint yn arwain y gad o ran datblygu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod yr iaith yn cael ei throsglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Buodd tua mil o blant yn Ysgol Maes Garmon yn yr wythdegau.

"Bellach, mae llawer yn llai na hynny, a does dim cynnydd wedi bod o ran ysgolion cynradd chwaith. Mae rhaid i'r cyngor yn gwneud llawer yn well er mwyn bodloni dymuniad pobl leol sydd eisiau i'w plant fod yn rhugl eu Cymraeg."

Ychwanegodd Toni Schiavone, cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r system addysg fel y mae yn golygu bod y rhan helaeth o'n plant a'n pobl ifanc yn cael eu hamddifadu o'r Gymraeg.

"Mae'r llywodraeth yn cynnal system fydd yn arwain at ddirywiad yr iaith. Mae angen trawsnewid y system fel bod pob plentyn yn dod allan o'r ysgol yn rhugl eu Cymraeg.

"Mae'n rhaid cymryd camau dewr ymlaen a hynny ar frys." ychwanegodd Mr Schiavone.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo'n llawn i ddatblygiad parhaus addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yng Nghymru. Fel rhan o hyn, mae gwaith cyffrous wedi cychwyn ar ddatblygu cwricwlwm newydd a fydd yn cynnwys parhad o ddysgu ar gyfer yr iaith Gymraeg.

"Trwy ymestyn Siarter y Gymraeg ar draws y wlad byddwn hefyd yn hyrwyddo a chynyddu defnydd plant o'r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol."