Chris Wood: 'Gallai ei farwolaeth fod wedi'i osgoi'

Chris Wood
Image caption Bu farw Chris Wood, o Gaerdydd, ym mis Ionawr 2013

Mae adroddiad annibynnol sydd wedi dod i law BBC Cymru yn datgelu y gallai marwolaeth dyn 25 oed oedd ag anhwylder personoliaeth fod wedi ei osgoi pe bai wedi derbyn y gofal yr oedd ei angen.

Fe wnaeth Chris Wood, o Gaerdydd, ladd ei hun ym mis Ionawr 2013.

Dywedodd yr elusen iechyd meddwl, Hafal, bod rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau bod byrddau iechyd yn cydymffurfio â'r gyfraith ar ofal ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd meddwl, gan ychwanegu bod gwasanaethau yn anghyson ar draws Cymru.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod eisiau "gweld diwedd i'r anghysondeb mewn gofal iechyd meddwl".

'Gofal anhrefnus'

Fe wnaeth Chris gymryd ei orddos cyntaf pan oedd yn 21 oed yn 2008. Ceisiodd ladd ei hun 31 gwaith arall yn y pedair blynedd a hanner wedi hynny.

Dywedodd adroddiad annibynnol i'w farwolaeth, gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro a chyfreithiwr ei fam, pe bai Chris wedi cael safon resymol o ofal, byddai ei farwolaeth wedi cael ei osgoi.

Cafodd Chris gyswllt cyson gyda'r gwasanaethau iechyd meddwl o 2008.

Fe wnaeth yr adroddiad hefyd godi pryderon am y gofal gafodd ei dderbyn gan Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, a'r ffaith na chafodd teulu Chris eu cynnwys yn y broses.

Dywedodd ei fam Debbie Wood ei bod yn teimlo bod dryswch am ddiagnosis Chris, a bod bywyd wedi mynd yn anodd iawn wrth i'w gyflwr waethygu.

"Roedd bywyd o ddydd i ddydd mor anhrefnus a'i ofal, a bod yn onest," meddai.

"Doedd o ddim yn ymddangos fel ei fod yn gallu rheoli'r hyn roedd yn ei deimlo a doedden ni heb gael unrhyw eglurhad ac roedden ni'n ei chael hi'n anodd ei ddeall ac ymdopi gydag ef."

'Dim asesiad cywir'

Dywedodd yr adroddiad, gafodd ei gadeirio gan yr Athro Kevin Gournay CBE: "Yn yr hyn rydw i wedi ei weld does dim tystiolaeth, yn fy marn i, bod y perygl o hunan anafu/hunanladdiad wedi cael ei asesu'n gywir yn 2012."

Fe wnaeth pethau waethygu ac ar 26 Ionawr 2013, fe wnaeth Chris ladd ei hun.

"Pe bai unrhyw un wedi gwrando arnom ni a rhoi'r cymorth priodol i Chris, gallai hyn fod wedi cael ei osgoi," meddai Ms Wood.

"I ni, dyna yw'r peth gwaethaf a bydd yn cael effaith arnom ni am byth."

Image caption Dywedodd rhieni Chris, Debbie a Robin, eu bod yn teimlo bod dryswch am ei ddiagnosis

Yn y cwest i farwolaeth Chris, daeth y crwner i'r canlyniad nad oedd esgeulustod wedi chwarae rhan yn ei farwolaeth.

Ond dywedodd Ms Wood bod yr adroddiad, gafodd ei gyhoeddi dair blynedd ar ôl y cwest, yn codi cwestiynau am y gofal wnaeth Chris ei dderbyn gan Dr Sudad Jawad - ei seiciatrydd ymgynghorol o 2008 nes ei farwolaeth.

Mae Dr Jawad wedi ymddeol bellach, ac mae cwynion Ms Wood yn cael eu hymchwilio gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol.

Dywedodd y byddai'n amhriodol iddo wneud sylw tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

'Digon yw digon'

Dywedodd prif weithredwr Hafal, Alun Thomas: "Rydyn ni'n clywed yn llawer rhy aml ein bod wedi dysgu gwersi o'r mathau yma o achosion.

"Digon yw digon, ac os nad yw pobl eisiau gweithredu'r mesurau iechyd meddwl, mae'n rhaid iddyn nhw roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaethau."

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro a dweud eu bod wedi cydnabod a derbyn darganfyddiadau'r adroddiad.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r pryderon gafodd eu codi yn yr adroddiad annibynnol, wedi cwrdd â'r teulu yn gyson ac wedi dod a'r achos i ben yn gyfreithiol," meddai llefarydd

"Nid yw'n bosib i ni ymhelaethu ar union fanylion yr achos cyfreithiol hir ac anodd yma, ond rydym yn pwysleisio i'r teulu a'r cyhoedd bod newidiadau wedi'u gwneud i atal hyn rhag digwydd eto."

'Blaenoriaeth i'r llywodraeth'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau "gweld diwedd i'r anghysondeb mewn gofal iechyd meddwl".

"Rydyn ni'n disgwyl i wasanaethau gydymffurfio â chanllawiau cenedlaethol fel NICE, ac rydyn ni wedi cyflwyno Mesur Iechyd Meddwl i sicrhau bod gan bob unigolyn mewn gwasanaethau eilradd gynllun gofal a thriniaeth," meddai llefarydd.

"Bydd triniaeth, cefnogaeth a gwasanaethau atal problemau iechyd meddwl yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.

"Byddwn yn parhau i weithio i ddod a'r stigma iechyd meddwl i ben a gweithio gydag ysgolion, cyflogwyr a phartneriaid eraill i wella lles yn y gweithle, mewn addysg ac yn ein cymunedau."