Norwy a’r Undeb Ewropeaidd: Y gorau o ddau fyd?

Cerflun
Image caption Gwylltio'n gacwn

Mae 'na gerflun enwog ym mharc Frogner yn Oslo o fachgen bach wedi gwylltio. Mae ei ddyrnau ynghau, un goes wedi ei chodi'n barod i'w phlannu'n galed ar y llawr a'i wyneb crwn yn llawn cynddaredd.

Mae ymwelwyr â'r parc yn cydio yn ei law i'w gwarchod rhag colli tymer. Diolch byth i minnau wneud 'run peth.

Ddeuddeg awr yn ddiweddarach ro'n i yng ngorsaf drên Oslo i gasglu car llog ond roedd hwnnw drideg milltir i ffwrdd ym maes awyr Gardemoen."You can catch the train to the airport, it's easy," meddai'r gŵr o'r cwmni llogi ceir.

Taith o 30 milltir i'r gogledd a ninnau angen bod 30 milltir i'r de.

Doedd y cyfaddawd ddim yn gyfaddawd o gwbl mewn gwirionedd. Aed a ni mewn tacsi i'r maes awyr gan gyrraedd am 11:30. "You were supposed to pick the car up at nine," meddai'r gŵr yn y lle llogi ceir."We thought you weren't coming so we cancelled it."

Janteloven

"Dyw eironi," meddai Iori Roberts, "ddim yn rhan o hiwmor Norwy."

Yn gam neu'n gymwys dwi newydd fod yn dyst i hynny: "Dyw pobl Norwy ddim yn cyffroi rhyw lawer"

Dwi newydd weld hynny hefyd.

Image caption Iori, Elwyn ac Owain o flaen y tŷ opera

Os yw Iori'n cyffredinoli, efallai bod hawl ganddo wneud hynny. Mae e 'di byw yma ers 1977 a'n cyfri' ei hun yn Norwyad. Mae e'n esbonio egwyddor Janteloven i mi: "Does neb yma yn well na'i gilydd" meddai. "Dim ond y Brenin sy'n cael ei alw'n Chi."

Ers ymddeol o'i waith fel athro mae Iori yn tywys ymwelwyr o gwmpas Oslo.

Dwi'n gofyn iddo am berthynas Norwy â'r Undeb Ewropeaidd. Pwnc sy'n cael tipyn o sylw ym Mhrydain gan ymgyrchwyr o blaid ac yn erbyn parhau'n rhan o Ewrop.

"Pam ddylen ni fynd mewn i Ewrop a pheryglu safon byw yma?" meddai'n ddi-flewyn ar dafod. Dyma farn mwyafrif pobl Norwy hefyd a does fawr o ryfedd.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Iori Roberts, sydd wedi byw yn Norwy ers 1977, sy'n rhoi ei farn

Mae cronfa olew'r wlad gwerth bron i £600 biliwn. Mae hi'n allforio nwy a thrydan a'n cynnig cefnogaeth hael i'w physgotwyr a'i ffermwyr.

Pris bach

Wrth gwrs bod pobl yma'n hapus â phethau fel ag y maen nhw.

Ar y llaw arall mae'r wlad yn gorfod talu i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd heb fod â rhan ffurfiol wrth lunio polisi yno.

Mae hynny, yn ôl Elwyn Jones, yn achosi rhywfaint o anfodlonrwydd: "Dwi wedi clywed sôn amdano fel Democracy by Fax" meddai'r gŵr busnes sy'n wreiddiol o Aberystwyth. "Fan hyn chi'n cael gwybod beth sy'n rhaid 'neud a does dim dewis. Ym Mhrydain ni'n gallu trafod a gofyn cwestiynau. Dyw hynny ddim ar gael yn Norwy".

Pris bychan i'w dalu am fod yn annibynnol yw hynny ym marn Iori Roberts. Mae e'n teimlo y gallai closio at Ewrop leihau dylanwad Norwy ar y llwyfan rhyngwladol. Mae Norwy meddai, yn cael y gorau o ddau fyd.

Image caption Harbwr Fagerstrand

Mae'r arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Richard Wyn Jones, yn treulio cryn dipyn o amser yn Norwy.

Mae e 'di gweld agweddau tuag at yr Undeb Ewropeaidd yn newid yno: "Bymtheng mlynedd yn ôl roedd pobl yn teimlo mai mater o amser oedd ymuno," meddai. "Erbyn hyn mae hynny wedi diflannu. Dydy rhain ddim yn ddyddiau da i'r prosiect Ewropeaidd yn sgil trafferthion yr Ewro".

Mae'n wir fod gan Norwy fwy i'w golli na gwledydd eraill oherwydd ei chyfoeth ond dyw hi ddim ychwaith yn deg ei chyhuddo o fod yn hunanol. Mae hi'n cyfrannu'n hael tuag at ddatblygu gwledydd tlawd ac mae mewnfudo, fel cyfran o'r boblogaeth, yn uwch yma nag ym Mhrydain. Mae Norwy hefyd yn ceisio bod yn egwyddorol wrth fuddsoddi ei chyfoeth olew.

Wrth ystyried perthynas Norwy a'r Undeb Ewropeaidd mae'n bosibl bod rhywbeth gwbl sylfaenol yn lliwio barn y bobl yma.

Roedd Norwy dan reolaeth Denmarc am bedwar can mlynedd, Sweden am ganrif ac yna'r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae'r ysfa i warchod ei hannibyniaeth yn gryf ac mae hi'n gallu fforddio torri ei chwys ei hun heb gynhyrfu fel y cerflun yn y parc.