Canfod corff dyn 34 oed yng nghanol Wrecsam

car heddlu

Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod mewn ardal goediog yn agos i ganol Wrecsam nos Fawrth.

Fe ddywed swyddogion nad yw amgylchiadau'r farwolaeth yn amheus, ond mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth am y digwyddiad.

Cafodd corff y dyn 34 oed ei ddarganfod tua 22:00 ger Capel y Groes ym Modhyfryd.

Fe gafodd ambiwlans ei alw'n syth, ond roedd y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.

Mae manylion y digwyddiad wedi cael eu trosglwyddo i'r crwner.