Byw gyda dementia: Stori Chris Roberts o Rhuddlan

Image copyright Iolo Penri

Ers dwy flynedd mae camerâu wedi bod yn recordio bywyd dyddiol Chris Roberts o Rhuddlan, sy'n byw gyda dementia, ar gyfer rhaglen Panorama. Dyma argraffiadau'r cynhyrchydd, Maria David.

Dyn tal, hyderus a'i lygaid yn pefrio gydag ateb i bopeth. Pan nes i gyfarfod y cyn feiciwr a'r gŵr busnes Chris Roberts am y tro cyntaf fydden i byth wedi dychmygu fod ganddo ddementia.

"Os fydden ni'n cael punt bob tro mae rhywun yn dweud, 'Go iawn?' Fydden i'n ddyn cyfoethog," meddai Chris wrth chwerthin.

Dim ond 50 oed oedd Chris pan gafodd ddiagnosis o ddementia a chlefyd Alzheimers.

Ers hynny mae o wedi cysegru ei fywyd i godi ymwybyddiaeth gan deithio gyda'i wraig Jayne ar draws Prydain a dramor, yn siarad mewn cynadleddau ac yn rhoi syniad go iawn i bobl sut mae bywyd i rywun sydd gyda dementia.

"Mae'n cadw fy meddwl yn ystwyth, sydd yn beth da achos os allai gadw fy meddwl yn brysur dwi'n meddwl bydd y clefyd ddim yn datblygu mor gyflym," meddai.

'Colli tymer'

Mae Chris yn awyddus i danlinellu bod dementia ddim yn ymwneud gyda'r cof yn unig.

Gall y clefyd hefyd effeithio ar olwg a chydgordiad person, cydbwysedd, y ffordd mae rhywun yn canolbwyntio a newid cymeriad person. Yn achos Chris mae o'n colli ei dymer yn aml.

"Roeddwn i'n arfer bod yn berson amyneddgar iawn a byth yn colli fy nhymer ond nawr mae'n digwydd yn reit ddyddiol."

Mae llais Chris yn un prin. Fel arfer clywed gan ofalwyr ydyn ni a ddim gan y person sydd yn byw gyda'r clefyd. A dyna pam bod Chris mor angerddol ei fod am godi ymwybyddiaeth a helpu eraill.

Felly aethon ni i Rhuddlan i gyfarfod Chris, ei wraig Jayne a'i merch Kate.

Gan ddefnyddio camerâu bach dechreuon ni ffilmio Chris bob dydd yn gwneud pethau arferol fel mynd i siopa, pilio tatws a sawl trip i gynadleddau lle'r oedd yn siarad am ei brofiad.

Image copyright Iolo Penri
Image caption Jayne, Chris a Kate

Yn ystod y cyfnod yma byddai Chris yn esbonio i ni sut oedd dementia yn effeithio arno fo a sut oedd o'n ymdopi - y poen meddwl enbyd, y problemau gweld, y problemau cydbwysedd a'i gof.

Ond oni bai y byddai wedi dweud wrthon ni am hyn fydden ni byth wedi gwybod. Roedd o mor dda am addasu, os nad oedd o'n gallu gwneud rhywbeth byddai'n dod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem.

A dyna sut oedd Chris yn hoffi bod, addasu yn gyson i'w fywyd. Roedd o wedi treulio'r pum mlynedd diwethaf yn celu'r arwyddion bach o ddementia i'r graddau, tan yn ddiweddar, nad oedd neb yn gwybod oni bai ei fod o wedi dweud wrthyn nhw.

"Dwi wastad wedi bod yn dda am blagio," mae'n esbonio. "Dwi eisiau cyflwyno fy hun fel person mor normal ac y gallai am gyhyd ac y gallai a dwi'n dod yn dda am wneud hynny."

Camerâu CCTV

Roedd y ffordd roedd Chris yn gallu ymdopi a darganfod datrysiadau i'w salwch yn syfrdanol.

Ond roedd hefyd yn achosi problem i ni. Sut oedden ni yn mynd i ddangos yr anawsterau roedd Chris yn dweud wrthon ni?

Dyna pryd wnaethon ni benderfynu defnyddio camerâu CCTV. O fewn ychydig wythnosau roedd yna saith yn y tŷ lawr grisiau yn recordio popeth 24 awr y dydd.

Roedd y canlyniadau yn anhygoel. Cyn bo hir roedden ni'n gweld y problemau oedd yn wynebu Chris.

Byddai yn gyson yn agor cypyrddau yn y gegin, yn edrych am gwpan neu wydr. Byddai Jayne wedyn yn dod i mewn ac yn cau nhw i gyd.

"Dwi ddim yn gwybod lle mae unrhywbeth yn y tŷ ma' erbyn hyn. Mae o fel bod rhywun wedi symud ti o'r tŷ am gwpl o flynyddoedd a bod ti nawr yn ôl.

"Does gen i ddim cof o le mae pethau. Mae'n rhaid i fi agor bob cwpwrdd a chwilio ymhob man ar gyfer unrhywbeth y dyddiau yma."

Image copyright Iolo Penri

Ar adegau eraill rydyn ni yn gweld bod Chris ddim yn siŵr sut i ddod o hyd i'r tŷ bach neu lan lofft.

"Rydw i'n gallu mynd ar goll yn fy nhŷ fy hun," meddai. "Dwi'n gallu cerdded mewn i 'stafell a does 'na ddim byd yn gyfarwydd i fi. Mae'n ddryslyd iawn pan ti ar goll yn tŷ dy hun."

Fe wnaethon ni hefyd adael camera i Chris allu recordio deunydd ei hun. Byddai'n recordio dyddiaduron gyda chyngor i bobl sy'n cael diagnosis dementia.

Mae bron dwy flynedd wedi pasio ers i ni ddechrau ffilmio gyda Chris a'i deulu. Yn y cyfnod hynny rydyn ni wedi gweld y ffordd mae'r clefyd wedi datblygu.

Maen nhw'n deulu rhyfeddol, yn fodlon dangos popeth i'r camerâu a hynny yn y cyfnod mwyaf anodd yn eu bywydau. Faint ohonon ni fydda yn fodlon cael camerâu CCTV yn ein cartref?

Ond maen nhw wastad wedi bod yn fodlon i'r camerâu aros am eu bod nhw eisiau rhoi gwybodaeth i eraill a helpu eraill sydd hefo dementia, eisiau rhoi gwir bortread o sut mae bywyd i rywun sydd gyda'r clefyd.

Atgofion newydd

Dyw Chris ddim eisiau dychryn pobl. Mae o wedi bod trwy gyfnodau anodd iawn ond mae o wedi wynebu bob her gyda hiwmor ac optimistiaeth.

"Does yna ddim byd dwi'n colli ond mae 'na bethau newydd dwi'n gallu gwneud nawr. Mae'n rhaid i chi edrych ymlaen a ddim yn ôl, canolbwyntio ar beth allwch chi wneud a dim beth chi ddim yn gallu gwneud."

Mae'r fflachiadau rydyn ni wedi gweld o fywyd Chris, Jayne a Kate yn onest iawn. Dydyn nhw erioed wedi cilio rhag dweud fel y mae hi.

Ond maen nhw'n awyddus i bwysleisio nad ydy hi yn ddu i gyd. "Mae popeth yn newid, yn newid yn gyflym ond beth allwn ni wneud?" meddai Kate.

"Ni'n cael lot o hwyl. Dydyn ni ddim yn chwerthin ar ben dad ond gyda dad. Mae gymaint o bethau wedi digwydd sydd wedi rhoi atgofion newydd i ni felly dyw e ddim yn ddu i gyd."

Ac mae Jayne eisiau byw yn y funud, tra eu bod nhw'n gallu.

"Mae o mor, mor bwysig gwneud y gorau o'r amser sydd gyda ni ac mae'n rhaid i ni fwynhau ein hunain achos fel arall rydyn ni mynd i fod yn drist.

"Byddwn ni yn bendant yn drist yn nes ymlaen ond dim nawr. Beth am Chris? Wel mae ganddo gyngor i rywun sydd yn byw gyda dementia.

"Peidiwch â bod ofn, peidiwch â bod ofn. Rhaid i chi fyw eich bywyd. Mynd amdani."

Athroniaeth diymhongar i ni i gyd, beth bynnag yw'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu.

Living With Dementia: Chris's Story, BBC One, nos Iau 2 Mehefin am 20:00.