Cwest Cheryl James: Rhieni wedi 'disgwyl yn rhy hir'

Cheryl James
Image caption Bu farw Cheryl James yn 1995 ym Marics Deepcut

Mae crwner wedi dweud wrth rieni milwr gafodd ei darganfod yn farw ym marics Deepcut yn Surrey eu bod wedi disgwyl am ymchwiliad llawn i achos ei marwolaeth "am gyfnod rhy hir".

Cafodd y Preifat Cheryl James, o Langollen yn Sir Ddinbych, ei darganfod yn farw gyda bwled yn ei phen yn y gwersyll yn 1995.

Roedd hi'n un o bedwar milwr i farw yn y barics dros gyfnod o saith mlynedd.

Fe wnaeth y cwest cyntaf i farwolaeth y Preifat James ym mis Rhagfyr 1995 gofnodi rheithfarn agored.

Dywedodd y crwner Brian Barker QC ei bod hi'n 'destun gofid' nad oedd yna ymchwiliad mwy trylwyr ar y pryd

Image copyright PA
Image caption Mae rhieni Cheryl James wedi bod yn ymgyrchu am flynyddoedd i gael atebion

"Mae'n destun gofid nad oedd yr ymchwiliad i farwolaeth Ms James yn 1995 yn un mwy trylwyr a bod yna ddim ymchwiliad mwy llawn a gwyddonol i'r lle y cafodd ei chorff ei ddarganfod", meddai.

"Pe byddai hyn wedi digwydd efallai y byddai wedi bod yn bosib osgoi anghysondeb o ran atgofion ac y byddai'r dystiolaeth wyddonol o ansawdd gwell."

Mae rhieni Cheryl James, Des a Doreen yn y llys er mwyn clywed y rheithfarn.

Cafodd ail gwest ei ddechrau ym mis Chwefror ar ôl i farnwyr yr Uchel Lys ddileu canfyddiadau'r cwest cyntaf.

Mae dros 100 o dystion wedi rhoi tystiolaeth.