Cyfle i ddilyn Cymru ar sgrîn fawr yn Abertawe

cymru

Bydd cefnogwyr pêl-droed yn Abertawe sydd ddim yn teithio i Ffrainc i wylio Cymru yn Euro 2016 yn gallu gwylio pob gêm ar sgrîn fawr yn y ddinas.

Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd holl gemau Cymru yn cael eu dangos yn fyw ar sgrîn fawr yn Sgwâr y Castell.

Fe fydd carfan Chris Coleman yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin, cyn chwarae yn erbyn Lloegr a Rwsia yng ngrŵp B y gystadleuaeth.

Fe fydd cyfle hefyd i ddilyn sylwadau y cymeriad adnabyddus Walter Tomos o'r gyfres boblogaidd C'mon Midffild, ar lif byw BBC Cymru Fyw yn ystod tair gêm grŵp Cymru.

Nid yw Cymru wedi chwarae yng ngemau terfynol prif bencampwriaeth ryngwladol ers 1958.