Morgannwg yn trechu Hampshire yn y T20 yng Nghaerdydd

Michael Hogan Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Michael Hogan yn dathlu un o'i wicedi

Ym mhencampwriaeth T20 nos Wener fe enillodd Morgannwg ar ôl bowlio Hampshire allan am 141 yn Stadiwm Swalec.

Ar ôl dechrau sigledig i'w batiad nhw fe ddaeth y tîm cartref yn ôl i ennill o bum wiced.

Cyfrannodd Aneurin Donald a Colin Ingram 94 mewn 8.3 pelawd mewn partneriaeth.

Roedd batiad Donald o 55 mewn 27 pêl yn cynnwys wyth 4 a dau 6.