Hywel Gwynfryn yn cofio cyfarfod Muhammad Ali
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Hywel Gwynfryn yn cofio cyfarfod Muhammad Ali

4 Mehefin 2016 Diweddarwyd 11:01 BST

Bu farw cyn-bencampwr pwysau trwm y byd, Muhammad Ali yn 74 oed yn Arizona yn yr Unol Daleithiau.

Bydd y bocsiwr byd enwog yn cael ei gofio am ei sgiliau yn ei gamp a'i ymddygiad hwyliog gyda'r cyfryngau.

Un gafodd gyfle i gwrdd ag ef yw Hywel Gwynfryn, fel rhan o'i waith gyda rhaglen Heddiw, ac mae'n cofio'r cyfarfyddiad hyd heddiw.

Pwy a feddylia bod y gŵr o Kentucky yn ymwybodol o waith T.H. Parry Williams...