Ysgol Treganna yn ffarwelio â charfan Cymru
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Ysgol Treganna yn canu'r anthem i ffarwelio â'r garfan

4 Mehefin 2016 Diweddarwyd 14:25 BST

Mae carfan bêl-droed Cymru wedi gadael am Sweden ar gyfer eu gêm gyfeillgar olaf cyn pencampwriaeth Euro 2016.

Fe wnaeth Chris Coleman a'r chwaraewyr adael o Faes Awyr Caerdydd ac roedd dros 100 o ddisgyblion ysgol yno i ffarwelio â nhw.

O Sweden bydd y chwaraewyr yn teithio i'w canolfan yn Dinard yn Llydaw ar gyfer Euro 2016, cyn paratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y bencampwriaeth yn erbyn Slofacia ar 11 Mehefin.

I ysbrydoli a dymuno lwc i'r criw, bu disgyblion Ysgol Treganna yn canu'r anthem genedlaethol wrth iddyn nhw gyrraedd y maes awyr.