Cadarnhau perchnogion newydd Clwb Pêl-droed Abertawe

jason Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jason Levien yn berchennog DC United yng nghynghrair bêl-droed yr MLS hefyd

Mae gŵyr busnes o'r Unol Daleithiau wedi prynu Clwb Pêl-droed Abertawe am bron i £100m, yn amodol ar delerau Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd Jason Levien a Steve Kaplan yn arwain consortiwm sydd yn rhoi rheolaeth o 60% i'r ddau yn y clwb.

Bydd yn rhaid i'r Uwch Gynghrair benderfynu fod Levien a Kaplan yn addas fel perchnogion cyn bod penderfyniad terfynol.

Dywedodd datganiad: "Mae'r ddau yn gweld prynu Abertawe fel cyfle cyffrous ar gyfer twf tymor hir y clwb ym mhob maes."

Bydd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe, sydd â chynrychiolwyr ar y bwrdd rheoli, yn parhau â 21.1% o gyfranddaliadau yn y clwb.

Mae disgwyl y bydd Huw Jenkins yn parhau fel cadeirydd a Leigh Dineen fel is-gadeirydd.