Nifer y ffoaduriaid o Syria yng Nghymru yn 'siomedig'

ffoaduriaid Image copyright Reuters

Mae ystadegau yn dangos mai pum cyngor yng Nghymru sydd wedi rhoi lloches i ffoaduriaid o Syria, er bod 22 wedi addo gwneud hynny.

Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Gartref 78 ohonyn nhw sydd wedi eu cartrefu yng Nghymru rhwng Hydref 2015 a Mawrth 2016, tra bod yr Alban wedi derbyn mwy na 600.

Mae'r niferoedd yn "siomedig", meddai elusennau.

Dywedodd y Gymdeithas Llywodraeth Leol bod mwy o gynghorau yn paratoi tuag at groesawu ffoaduriaid a'u bod yn trafod ar hyn o bryd.

Dywedodd Carys Mair Thomas, pennaeth Oxfam Cymru: "Beth sy'n rhwystro'r holl awdurdodau lleol rhag croesawu'r teuluoedd yma?

"Mae Ceredigion wedi arwain y ffordd, er eu bod nhw erioed wedi croesawu ffoaduriaid yn y gorffennol, ac fe ddylen nhw annog eraill, gyda mwy o brofiad yn y materion hyn, i weithredu."

Image copyright AP

Castell Nedd Port Talbot sydd wedi croesawu'r nifer mwyaf hyd yma, 27. Mae 24 wedi eu cartrefu gan Abertawe, Torfaen a Cheredigion 10 yr un, a Chaerffili saith.

Ym mis Mai fe wnaeth Wrecsam gytuno i dderbyn 30 o deuluoedd o Syria ac fis Ebrill daeth cadarnhad bod Môn hefyd am dderbyn 10 dros y tair blynedd nesa'.

Mae holl gynghorau Cymru wedi cytuno i i gynnig lloches i 20,000 o ffoaduriaid o Syria erbyn 2020.

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru wedi amcangyfrif y gallai Cymru rhoi cartref i tua 1,600 o bobl Syria.

Yn ôl Oxfam, mae angen i bob cyngor croesawu llai na 10 o deuluoedd yr un.

'Chwarae eu rhan'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau yn delio gyda "materion ailgartrefu" sy'n "heriol".

Ychwanegodd: "Mae nifer o gynghorau Cymru wedi chwarae eu rhan. Mae mwy yn barod i wneud hynny gan roi lloches i ffoaduriaid yn ddiweddarach eleni.

"Rydym yn hyderus y bydd awdurdodau Cymru yn chwarae eu rhan yn llawn yn y cyfnod nesa' yn rhaglen ailgartrefu ffoaduriaid Syria sy'n cael ei gydlynu gan y Swyddfa Gartref."

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod awdurdodau lleol yn rhan o'r cynllun o'u gwirfodd eu hunain.

Ychwanegodd bod gofyn i gynghorau "feddwl yn ofalus iawn" p'unai oes ganddyn nhw'r isadeiledd a rhwydwaith sydd ei angen er mwyn sicrhau bod "gofal addas a'r integreiddiad o'r ffoaduriaid" cyn dweud wrth y Swyddfa Gartref faint o ffoaduriaid maen nhw'n gallu derbyn."