Ffaith ta chwedl?

Cwpan Nanteos

Ar 9 Mehefin fuodd Caryl Parry Jones a'i gwesteion ar BBC Radio Cymru yn trafod straeon sy'n cael eu rhannu'n eang fel ffeithiau, ond sydd â dim sail iddyn nhw.

Pa straeon yn hanes Cymru y gallwn ni ddweud yn ddi amheuaeth eu bod nhw wedi digwydd? Dyma i chi enghreifftiau o hanesion sydd wedi eu rhannu dros y canrifoedd. Ond y'ch chi'n eu credu nhw? Penderfynwch chi!


Madog

Yn ôl yr hanes, fe wnaeth Madog, mab i Owain Gwynedd, brenin Gwynedd ddarganfod y cyfandir ry'n ni bellach yn ei adnabod fel Gogledd America. Roedd hyn tua 1170, dros dair canrif cyn i Christopher Columbus hwylio yno yn 1492.

Ai Madog ddylai gael y clod am ddarganfod y cyfandir?

Os ydych chi'n credu hynny mae'n bosib iawn y byddwch chi'n gweld y gwirionedd mewn stori sy'n gysylltiedig â Madog. Wedi iddo ymsefydlu ar y cyfandir mae na sôn bod nifer o frodorion y cyfandir yn gallu siarad Cymraeg, wedi i'r iaith gael ei phasio i lawr gan Madog a'r ymsefydlwyr gwreiddiol.

Teithiodd John Evans o'r Waunfawr yng Ngwynedd ar hyd afon Missouri i chwilio am lwyth y Mandan ddiwedd y 18fed ganrif. Ar ôl eu darganfod wnaeth e ddim dod o hyd i unrhyw dystiolaeth eu bod wedi dod i gysylltiad gyda'r iaith Gymraeg.

'Dyw haneswyr ddim yn credu bod unrhyw sail i'r chwedl bellach, ond mae'n hwyl breuddwydio.

Image caption Roedd sioe Gruff Rhys, 'American Interior' wedi'i selio ar hanes John Evans, oedd yn berthynas pell i Gruff

Yr Hen Dderwen, Caerfyrddin

Roedd hen dderwen Myrddin yng Nghaerfyrddin yn sefyll yng nghanol y dref, ac yn ôl y chwedl rhoddodd yr hen ddewin swyn ar y goeden er mwyn ei amddiffyn. Awgrymodd Myrddin y byddai Caerfyrddin yn boddi, petai'r goeden yn cael ei lladd neu'i symud.

Mae'n debyg fod rhywun wedi gwenwyno'r hen dderwen tua 1850 oherwydd nad oedden nhw'n hapus fod pobl yn ymgynnull yno.

Er gwaethaf ymdrechion ar hyd y blynyddoedd i amddiffyn y dderwen, cafodd y dderwen ei thorri yn y 1970au er mwyn hwyluso'r traffig.

Trwy gyd-ddigwyddiad posib, gafodd Caerfyrddin lifogydd difrifol y flwyddyn wedyn ac mae wedi bod yn dioddef o broblemau llifogydd ar adegau o law trwm ers hynny. Cyd-ddigwyddiad mae'n siŵr.

Image caption Cafodd darnau o'r hen dderwen eu symud i Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili a Neuadd San Pedr yn y dre

Gelert

Mae chwedl Gelert yn gyfarwydd i lawer. Aeth Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru, i hela gan adael ei gi ffyddlon Gelert i edrych ar ôl ei fab bychan. Pan ddaeth nôl, roedd Gelert yn waed drosto a 'doedd dim sôn am y baban.

Roedd Llywelyn yn credu nad oedd Gelert wedi llwyddo i amddiffyn ei fab a thrywannodd y ci gyda'i gleddyf. Ond yn fuan wedyn gwelodd y tywysog gorff blaidd ger y cruda mi wnaeth e sylwi bod y baban yn iach. Ac yntau yn teimlo'n euog, penderfynodd Llywelyn gladdu Gelert a gosododd garreg enfawr ar ei fedd.

Ond er ei bod hi'n swnio fel stori a allai fod yn wir, mae'n debyg taw cynnyrch dychymyg tafarnwr lleol o'r enw Dafydd Prisiart oedd y stori yn y 18fed ganrif. Roedd y tafarnwr yn gyfarwydd gyda straeon llên gwerin tebyg o rannau eraill o'r byd.

Rhoddodd fwy o hygrededd i'r stori trwy osod carreg ar lan afon Glaslyn ym Meddgelert i nodi safle'r bedd. Eisteddodd nôl a disgwyl i'r ymwelwyr lifo drwy ddrysau'r dafarn.

Image caption Bedd Gelert

Cwpan Nanteos

Ai mewn plasdy yng Ngheredigion y cafodd y Greal Sanctaidd ei gadw?

Mae na sôn fod y gallu gan hen gwpan pren ym mhlas Nanteos i wella cleifion. Yn ôl yr hanes hwn oedd y cwpan gafodd ei ddefnyddio gan Iesu Grist yn ystod y Swper Olaf.

Sut y daeth y crair hynod i gefn gwlad Cymru felly?

Yn ôl y chwedl, fe ddihangodd Joseff o Arimathea o Jeriwsalem gyda'r cwpan. Daeth i ben ei daith yn Glastonbury yng Ngwlad yr Haf.

Image caption Mynedfa fawreddog abaty Ystrad Fflur

Fe sefydlodd Joseff abaty ar y safle, ond ymhen rhai blynyddoedd penderfynwyd nad oedd adeilad oedd â chysylltaid mor amlwg â'r Swper Olaf yn fan diogel i gadw'r cwpan.

Cafodd y Greal Sanctaidd ei symud i abaty llawer mwy anghysbell sef Ystrad Fflur yng Ngheredigion.

Yno y bu'r cwpan hynod tan i Harri'r VIII ddechrau ei ymgyrch ffyrnig i ddiddymu'r abatai. Pan glywodd mynachod Ystrad Fflur fod lluoedd y brenin ar eu ffordd, llwydodd saith ohonyn nhw i ddianc i blas Nanteos gyda'r cwpan.

Yn anffodus, dyma lle mae'r stori yn dechrau syrthio'n ddarnau! Cafodd Abaty Ystrad Fflur ei ddiddymu rhywbryd rhwng 1536 a 1542... dros ganrif cyn i ystâd Nanteos ddod i fodolaeth!

Image caption Plasdy Nanteos

Erbyn hyn mae arbenigwyr sydd wedi archwilio'r cwpan wedi amcangyfri ei fod yn dyddio o tua 1,400 o flynyddoedd ar ôl i Grist gael ei groeshoelio.

Mae'n ymddangos bod y chwilio am y Greal Sanctaidd yn parhau!

Efengylydd ywen Llangernyw

Noson Calan Gaeaf, o dan yr ywen ar dir eglwys Llangernyw rhwng Abergele a Llanrwst, mae llais uchel yr efengylydd yn darllen enwau pobl y plwyf fydd yn marw yn ystod y flwyddyn nesaf.

Teimlo fel herio'r chwedl? Wel dyna wnaeth Siôn Ap Rhobert un flwyddyn gan fynd yna, dim ond i glywed ei enw e'n cael ei ddarllen gyntaf.

O fewn y flwyddyn, roedd yn farw.

Siŵr o fod?!

Image caption Ywen eglwys Llangernyw

Ydych chi'n gwybod am straeon tebyg? Gadewch i ni wybod trwy gysylltu trwy' ein tudalen Facebook neu'n cyfrif Twitter @BBCCymruFyw. Neu gallwch anfon e-bost i cymrufyw@bbc.co.uk