Dechrau llwyddiannus i Forgannwg yn y Cwpan Undydd

criced Image copyright Getty Images
Image caption Ar ôl batiad o 49 gan Graham Wagg, roedd Morgannwg allan am 289.

Fe ddechreuodd Morgannwg eu hymgyrch Cwpan Undydd ar nodyn llwyddiannus gyda buddugoliaeth yn erbyn Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd.

Fe enillon nhw o 52 o rediadau wrth i'r ymwelwyr golli eu hail gêm mewn deuddydd.

Ar ôl batiad o 49 gan Graham Wagg, roedd Morgannwg allan am 289.

Gyda Sir Gaerloyw yn targedu 290, roedden nhw allan am 237, er ymdrechion Michael Klinger (52) a Benny Howell (77).