Achub dyn o'r môr ar ôl dwyn cwch o harbwr Y Rhyl

Gwylwyr y glannau

Mae dyn wedi ei arestio ar ôl dwyn cwch o harbwr a chymryd y cwch allan i'r môr.

Ond tra ar y môr, cafodd y dyn fraw a gadael y cwch a cheisio nofio yn ôl i'r lan. Roedd hefyd wedi cynnau ffagl cyn gadael.

Roedd yn rhaid iddo gael ei achub gan wylwyr y glannau.

Maen nhw wedi disgrifio'r hyn wnaeth o fel "gwastraff amser".

'Lwcus'

Dywedodd Andy Carroll o Wylwyr y Glannau Caergybi: "Am na chafodd ei achub yn syth fe wnaeth o drio nofio i'r lan. Oni bai bod y bad achub wedi dod ato mi fyddai wedi bod mewn trafferth go iawn.

"Roedd yn lwcus bod cwpl o bobl ar arfordir Rhyl wedi ei weld. Pe byddai'r amgylchiadau wedi bod yn wahanol mi fydden ni wedi bod yn chwilio am gorff. "

Yn ôl Mr Carroll, pe byddai'r bad achub wedi cyrraedd ychydig funudau yn hwyrach fyddai'r dyn ddim wedi goroesi: "Roedd wedi bod yn y dŵr ers ychydig o oriau."

Mae'r cwch erbyn hyn yn ôl yn Y Rhyl ond wedi ei ddifrodi'n sylweddol.

Meddai Heddlu'r Gogledd: "Mae dyn lleol 22 oed wedi ei arestio ar gyhuddiad o ddwyn cwch.

"Mae ar hyn o bryd yng ngorsaf Llanelwy yn sychu. Bydd yn cael ei holi yn ddiweddarach."