Euro 2016: Gwrthwynebwyr Cymru yn Ffrainc

grwp Cymru

Mae carfan Cymru yn barod i ddechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth Euro 2016. Mae'r cefnogwyr wedi bod yn amyneddgar ers degawdau, ac mae'r cyffro ar fin dechrau.

Ond faint wyddoch chi am wrthwynebwyr Cymru yng Nghrŵp B? Dyma ganllaw defnyddiol gan Cymru Fyw:


Slofacia

Bydd gêm gyntaf Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Slofacia yn Bordeaux. Dyma'r ail dro iddyn nhw ymddangos yn un o'r prif bencampwriaethau ers dod yn wlad annibynnol yn 1993.

Maen nhw wedi ymdrechu 11 gwaith i gyrraedd rowndiau terfynol ers hynny.

Fe wnaethon nhw gyrraedd rownd 16 olaf Cwpan y Byd 2010, gan lwyddo i daro'r Eidal allan o'r gystadleuaeth yn y grŵp.

Yr hyfforddwr

Cafodd Jan Kozak 55 o gapiau dros Czechoslovakia ac roedd yn rheolwr ar FC Kosice ar bedwar achlysur cyn dod i reoli'r garfan genedlaethol yn 2013.

Enillodd cynghrair Slofacia gyda Kosice ddwywaith ac fe gyrhaeddodd y tîm grwpiau Cynghrair y Pencampwyr yn 1998.

Mae gan Kozak enw i'w hun fel dyn tanllyd - yn 2009 fe afaelodd yng ngwddf un o hyfforddwyr FC Nitra, ond mae hynny'n hen hanes erbyn hyn gan fod Slofacia wedi cyrraedd Pencampwriaethau Ewrop am y tro cynta' erioed.

Mae chwaraewr canol cae Tottenham Hotspur dan 21, Filip Lezniak, yn ŵyr iddo.

Cyrraedd Ffrainc

Daeth Slofacia yn ail yn Grŵp C tu nôl i Sbaen a nhw oedd yr unig dîm i guro'r pencampwyr presennol gan ennill 2-1 yn Zilina.

Collodd Slofacia yn erbyn Belarws yn hwyr yn yr ymgyrch ond fe sicrhawyd yr ail safle wedi i Sbaen guro'r Iwcrain yn Kiev.

Yn erbyn Cymru

Chwarae 2: Ennill 1, colli 1

Seren y tîm

Chwaraewr canol cae amryddawn Napoli, Marek Hamsik, yw'r seren amlwg. Mae'n rhedeg yn ddi-baid drwy'r gêm ac yn medru bod yn fygythiad ymosodol tu ôl i'r blaenwyr.

Mae'r golwr, Matus Kozacik, hefyd yn chwaraewr pwysig. Cafodd ei alw nôl i'r garfan wedi saith mlynedd yn yr anialwch ac roedd yn allweddol i Slofacia wrth iddynt sicrhau lle yn Ffrainc.

Un i greu argraff

Mae'r chwaraewr 21 oed, Ondrej Duda, wedi creu argraff ac roedd ei berfformiad diweddar yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Almaen yn golygu y gall ennill lle yn y tîm wrth ochr Marek Hamsik ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru.

Mae'n cael ei weld fel olynydd naturiol hirdymor i Hamskic yng nghanol y cae.

Image caption Mae Marek Hamsik wedi sgorio 18 gwaith dros Slovakia mewn 87 gêm

Lloegr

Bydd ail gêm Cymru yn Euro 2016 yn erbyn Lloegr yn Lens.

Ers iddyn nhw ennill Cwpan y Byd yn 1966, dydyn nhw erioed wedi gwireddu'r rhagolygon mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Fe wnaethon nhw gyrraedd y rownd gynderfynol yng Nghwpan y Byd 1990 cyn colli i'r Almaen, a'r un oedd y stori yn rownd gynderfynol Euro 1996 yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.36490687

Yr hyfforddwr

Mae Roy Hodgson wedi bod yn rheolwr ers 40 mlynedd, gan reoli clybiau yn Lloegr, Sweden, Norwy, Y Ffindir, Y Swistir a'r Eidal. Hefyd, mae wedi rheoli ar y lefel rhyngwladol gyda'r Swistr yng Nghwpan y Byd '94, Yr Emiradau Arabaidd Unedig a'r Ffindir.

Mae Hodgson yn ieithydd o fri gan allu siarad Saesneg, Norwyeg, Swedeg, Almaeneg ac Eidaleg yn rhugl ac mae hefyd yn deall Daneg, Ffrangeg a Ffinneg.

Cyrraedd Ffrainc

Lloegr oedd yr ail dîm i gadarnhau eu lle yn y bencampwriaeth ar ôl Ffrainc, gan eu bod yn cynnal y gystadleuaeth.

Enillodd Lloegr pob un o'u 10 gêm yn Grŵp E gan sgorio 31 o goliau ac ildio dim ond tair. Lloegr yw'r garfan ieuengaf yn yr holl gystadleuaeth.

Yn erbyn Cymru

Chwarae 101: Ennill 66, colli 14 a 21 gêm gyfartal

Seren y tîm

Er ei fod yn ddyn ifanc mae Harry Kane yn seren yn ymosod Lloegr. Mae'n sgoriwr cyson i'w dîm Tottenham Hotspur ac yn gallu creu rhywbeth o ddim. Mae wedi sgorio pum gôl dros Loegr mewn 12 gêm.

Efallai nad yw wedi bod yn chwarae cystal ag arfer y tymor hwn, ond mae Wayne Rooney dal yn ffigwr pwysig i Loegr ac fe all fod yn afr allweddol tu ôl y blaenwyr Kane a Vardy.

Un i greu argraff

Marcus Rashford yw'r chwaraewr ieuangaf yn yr holl bencampwriaeth ac mae'n gyflym ac athletig. Mae'r chwaraewr canol cae, Dele Alli, hefyd yn un all greu trafferth i'r gwrthwynebwyr a chreu lle i'r ymosodwyr.

Image copyright Nigel Roddis
Image caption Marcus Rashford, ymosodwr ifanc Manchester United

Rwsia

Fe fydd trydedd gêm Cymru yn Euro 2016 (ond nid yr olaf gobeithio) yn Toulouse yn erbyn Rwsia.

Fel Lloegr, mae mwyafrif o'u chwaraewyr yn chwarae eu pêl-droed yng nghynghrair eu hunain.

Ers iddyn nhw fethu ennill gêm yng Nghwpan y Byd 2014, mae hynt a helynt y tîm wedi gwella ers penodi Leonid Slutky'n reolwr ym mis Gorffennaf 2015.

Fe wnaeth yntau atgyfnerthu'r amddiffyn drwy ddewis nifer o amddiffynwyr CSKA Moscow.

Yr hyfforddwr

Enillodd Slutsky Uwchgynghrair Rwsia mewn tymhorau canlynol gyda CSKA Moscow.

Daeth i'w swydd fel hyfforddwr Rwsia yn lle'r Eidalwr, Fabio Capello, a gafodd ddechreuad siomedig i'r ymgyrch i gyrraedd Ffrainc.

Bu'n rhaid i Slutsky roi'r gorau i chwarae pan oedd yn 19 ar ôl disgyn o goeden wrth drio achub cath.

Cyrraedd Ffrainc

Wedi penodiad Slutsky aeth Rwsia 'mlaen i ennill eu pedair gêm olaf o'r ymgyrch drwy guro Sweden, Liechtenstein, Moldova a Montenegro a gorffen yn ail yn eu grŵp tu nôl i Sweden.

Mae 22 o'r 23 chwaraewr yng ngharfan Rwsia yn chwarae yn Uwchgynghrair y wlad, gyda Roman Neustädter yn chwarae i Schalke 04 yn yr Almaen.

Record yn erbyn Cymru

Chwarae 4: ennill 3 ac 1 gêm gyfartal

Seren y tîm

Alan Dzagoev o CSKA Moscow oedd seren y tîm nes iddo gael ei anafu a olygai y bydd yn methu'r bencampwriaeth.

Mae gan Roman Shirokov, capten y tîm, bwynt i'w brofi wedi cyfnod sâl o chwarae dros ei glwb, CSKA Moscow. Roedd rhai yn amau efallai na fyddai wedi ei gynnwys yn y garfan o gwbl.

Un i greu argraff

Roedd dipyn o syndod bod Aleksander Golovin o CSKA Moscow wedi ei gynnwys yn y garfan gan ei fod yn ifanc a ddibrofiad- cafodd ei ben-blwydd yn 20 oed ar Mai 30.

Ond mae wedi sgorio ddwywaith mewn tri ymddangosiad i'w wlad ac mae ganddo droed dde fedrus.

Image caption Chwaraewr canol cae CSKA Moscow a Rwsia, Aleksander Golovin