Osian Roberts
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Roberts: Ledley, Allen a Robson-Kanu yn 'barod i chwarae'

7 Mehefin 2016 Diweddarwyd 17:14 BST

Mae is-hyfforddwr Cymru Osian Roberts wedi dweud bod Joe Ledley, Joe Allen a Hal Robson-Kanu yn "holliach ac yn barod i chwarae" wedi i'r tri gael anafiadau.

Fe wnaeth y tri fethu gêm Cymru yn erbyn Sweden ddydd Sul gydag anafiadau, ond maen nhw bellach wedi dychwelyd i hyfforddi gyda'r garfan.

Owain Llyr oedd yn ei holi yn Dinard.