Merched Cymru 0 - 2 Merched Norwy

Natasha Harding Image copyright Huw Evans picture agency

Colli oedd hanes tîm pêl-droed rhyngwladol Merched Cymru yn erbyn Norwy ddydd Mawrth yng ngemau rhagbrofol Euro 2017.

Mae'r canlyniad yn Stadiwm Casnewydd yn golygu nad oes gan Gymru unrhyw obaith bellach o gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth.

Mae gan Gymru ddwy gêm gartref ar ôl yn y grŵp, yn erbyn Israel ag Awstria ym mis Medi.

Mae'n debygol y bydd Awstria a Norwy yn sicrhau eu lle yn y rownd derfynol - gydag un tîm yn sicrhau ei le fel y wlad fuddugol ar frig y grŵp, a'r llall yn sicrhau lle yn y rownd derfynol fel y wlad uchaf o ran pwyntiau allan o'r chwe gwlad ddaeth yn ail yn eu grwpiau.

Cyn y gêm yn erbyn Norwy fe dderbyniodd Natasha Harding o dîm Cymru gap aur gan Lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, David Griffiths ar achlysur ei 50fed gêm dros ei gwlad.

Image caption Natasha Harding a David Griffiths