Cyhoeddi enw dyn fu farw mewn gwrthdrawiad yn Abertawe

Google map Image copyright Google

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn sydd wedi marw yn dilyn damwain car yn Abertawe.

Thomas James Lewis, 22 oed oedd y gŵr fu farw yn y ddamwain ar yr A483 ger Penllergaer, ddigwyddodd am 17:25 ddydd Mawrth yn agos i fynediad Parc Penllergaer.

Roedd Mr Lewis mewn Dacia Sandero gwyn pan wnaeth y car daro i mewn i wal.

Mewn datganiad fe ddywedodd Heddlu De Cymru bod teulu Mr Lewis yn cael cefnogaeth gan swyddogion.

Mae'r heddlu yn dal i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth i'r gwrthdrawiad.