Osian Roberts yn trafod Llydaw
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Osian Roberts: 'Megis cychwyn' ar gytundeb Llydaw

8 Mehefin 2016 Diweddarwyd 15:41 BST

Daeth y cysylltiad rhwng Cymru a Llydaw yn gryfach ddydd mercher wrth i Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Ligue de Bretagne de Football arwyddo cytundeb i ddatblygu talent pêl-droed ifanc y ddwy wlad.

Mae is-hyfforddwr Cymru, Osian Roberts wedi dweud bod cytundeb newydd yn cynnig "sgôp bendigedig" i'r ddwy ochr.

Roedd Osian Roberts yn siarad gyda'n gohebydd Rhodri Tomos yng ngwersyll Cymru yn Dinard yng ngogledd Ffrainc.