Can mlynedd ers i garcharorion Iwerddon gyrraedd Frongoch

Plac

Mae'n gan mlynedd ers i garcharorion o Iwerddon ddod i aros mewn gwersyll yng nghefn gwlad Cymru ac mae'r gymuned wedi dod at ei gilydd i gofio`r digwyddiad.

Roedd y gwersyll ym mhentref Frongoch ger y Bala ac mi gyrhaeddodd y carcharorion o Iwerddon yn 1916 ar ôl Gwrthryfel y Pasg.

Digwyddodd y gwrthryfel ym mis Ebrill 1916 pan benderfynodd y Gweriniaethwyr yn Iwerddon i geisio sefydlu gweriniaeth annibynnol eu hunain ond mi gafon nhw eu gorchfygu gan filwyr Prydain. Cafodd llawer o'r arweinwyr blaenllaw eu dienyddio tra cafodd miloedd o rhai eraill eu hanfon i wersylloedd ym Mhrydain.

11 Mehefin 1916 oedd y dyddiad pan gyrhaeddodd rhai o'r carcharorion Frongoch ac mi oedden nhw yn y gwersyll tan fis Rhagfyr.

Yn ystod y dydd cafwyd teithiau cerdded o amgylch yr hen wersyll a nifer o siaradwyr yn cofio'r hanes gan gynnwys Llysgennad Iwerddon, Daniel Mulhall. Y bwriad oedd codi ymwybyddiaeth am yr hanes.

Mae'r diwrnod yn rhan o raglen o ddigwyddiadau Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-1918. Nod y rhaglen yw cofio am ddigwyddiadau pwysig ar draws y byd yn ystod y blynyddoedd hyn a'u heffaith ar Gymru.

Dywedodd y Llysgennad Daniel Mulhall: "Cafodd rhyw 1,800 o Wyddelod eu caethiwo yn Frongoch ar ôl Gwrthryfel y Pasg yn 1916 ac mae gan Frongoch le arwyddocaol yn hanes Cymru ac Iwerddon. Dw i'n arbennig o falch o weld brwdfrydedd y gymuned leol wrth iddi ymroi i'r coffáu.

'Hanes cyffredin'

"Wrth inni nodi canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg, a oedd yn ddigwyddiad mor dyngedfennol yn hanes Iwerddon, mae prosiectau fel hwn yn gyfle i edrych ar yr hanes cyffredin sydd gennym, i fod yn gynhwysol wrth gofio'r gorffennol, ac i ystyried a hyrwyddo'r llwybr cymod y mae Iwerddon a Phrydain wedi bod yn ei droedio ers degawdau bellach."

Mae adeilad yr ysgol leol, Ysgol Bro Tryweryn ar ran o safle'r gwersyll ac mi oedden nhw hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad.

Image caption Yr ysgol ar yr hen safle

Yn ôl Pennaeth yr ysgol, Heledd Wyn Owen, mae'r ysgol wedi bod yn brysur yn dysgu am yr hanes: "Bu'r disgyblion ynghlwm â nifer o brosiectau gwahanol gan gynnwys llunio cerdd goffa gyda'r Prifardd Myrddin ap Dafydd, cyfansoddi alaw a chân i'r gerdd gyda Robat Arwyn, a chreu murlun yn dehongli'r hanes gyda'r Crochenydd Neil Dalrymple.

"Fe fydd y plant yn edrych ymlaen at berfformio eu cân ar y diwrnod".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae Cymru'n Cofio Wales Remembers 1914-1918 yn gyfle i bobl ifanc ddeall eu hanes, ac i ddysgu am yr effaith a gafwyd ar eu hardal leol yn sgil y digwyddiadau cythryblus ledled y byd rhwng 1914 a 1918.

Cyffyrddwyd â phob cwr o Gymru mewn rhyw ffordd yn ystod y cyfnod hwnnw, ac mae'n bwysig bod cymunedau yn dod ynghyd i goffáu'r digwyddiadau hynny."