Cliciwch dros Gymru!

ashley
Image caption Dechrau da i'r ymgyrch! Cofiwch yr 'Ashnod #CymruFyw

Heb amheuaeth hi yw Brenhines yr Hunluniau. Cyn dechrau Ewro 2106 fe roddodd Cymru Fyw a Radio Cymru her i Catrin Heledd i dynnu gymaint o luniau a phosib gyda enwogion. Fel y gwelwch chi isod dydy hi ddim wedi'n siomi ni!

Mae Cymru Fyw yn eich gwahodd chi hefyd i anfon hunluniau o'ch hunain gydag enwogion yn ystod y bencampwriaeth.

Does dim rhaid i chi fod wedi bod yn ddigon lwcus i fynd i Ffrainc i ymuno yn yr hwyl.

Gallwch anfon eich lluniau at Cymru Fyw trwy eu hanfon i'n tudalen Facebook neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw gan ddefnyddio #CymruFyw. Croeso i chi eu hanfon hefyd ar e-bost at cymrufyw@bbc.co.uk


Image caption Blew mae Joe Ledley? Dyma fo yn cuddio tu ôl i'w farf!

Image caption Neil Taylor a phwy 'di hwn ar yr asgell dde? Byddai Shane yn gaffaeliad i'r garfan cyn belled bod o ddim yn gafael yn y bêl!

Image caption Ydy hi braidd yn boeth i wisgo barf? Dydy James Collins ddim yn poeni am hynny!

Image caption Ar ôl tri - Hal! Robson! Hal Robson-Kanu! Hal-wch eich hunluniau at Cymru Fyw!

Image caption Roedd yn rhaid i Cat gadw ei llygaid ar y Bale i gael y llun yma!

Eich lluniau chi...

Image caption Dau seren am bris un: Elis James ac Iwan Roberts.
Image caption Darren Parry o Borthmadog yn trên-io efo Arsenal ar y ffordd i Ffrainc . Ydy o wedi creu argraff ar Arsene Wenger 'ta ydy ei yrfa bêl-droed o wedi cyrraedd pen y twnel?