Criced T20: Morgannwg yn curo Sir Gaerloyw

Criced

Roedd cricedwyr Morgannwg yn fuddugol yn erbyn Sir Gaerloyw yng nghystadleuaeth T20 ddydd Gwener.

Roedd y fuddugoliaeth yn gyfforddus yn y diwedd wrth i'r clwb o'r brifddinas guro o chwe wiced. Llwyddodd Sir Gaerloyw i sgorio 168 am 8, ond sgoriodd Morgannwg 172 am 4 ar faes y Brightside ym Mryste.