Cymru 2- 1 Slofacia

Image copyright Reuters
Image caption Dathlu wedi'r gôl

Mae Cymru wedi ennill yn erbyn Slofacia yn eu gêm agoriadol yng nghrwp B ym Mhencampwriaeth Euro 2016.

Bu bron i Slofacia sgorio yn y munudau cyntaf wrth i Marek Hamsík guro tri o chwaraewyr a chyrraedd cwrt cosbi Cymru, gan edrych fel pe bai gôl yn anorfod.

Ond fe lwyddodd Ben Davies i gicio'r bêl oddi ar y lein.

Ar ôl 10 munud fe newidiodd y gêm wrth i'r dyfarnwr roi cig rhydd i Gymru. Fe lwyddodd Gareth Bale i sgorio chwip o gôl a churo Matus Kozacik.

Image copyright PA

A dyna oedd y sgôr hanner amser er bod y naill dîm a'r llall wedi cael ambell gyfle.

Mi darodd Slofacia nôl yn yr ail hanner gan fygwth sawl gwaith. Fe ddaeth y gôl yn y diwedd gan y chwaraewyr ifanc Ondrej Duda.

Ond mi newidiodd Chris Coleman y tactegau gan ddod a Hal Robson-Kanu a Joe Ledley ar y cae.

Methodd Ramsay gyfle euraidd o flaen gôl Slofacia, wedi croesiad gwych gan Robson-Kanu, ond wnaeth siom y cefnogwyr ddim para'n hir wrth i Robson Kanu sgorio.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru ar frig y tabl gyda thri phwynt.