Y daith bryderus i Lens

Lille
Image caption Mae llawer o'r cefnogwyr ar eu ffordd i Lille

Er bod gorfoledd nos Sadwrn yn dal i gynnal cefnogwyr Cymru, mae'r sylw nawr yn troi at y gêm nesa yn Lens ddydd Iau.

Gan fod Lens ei hun yn dref fechan, fe fydd llawer o gefnogwyr yn debyg o aros yn ninas Lille rhyw 15 milltir i ffwrdd.

Wedi heulwen Bordeaux, fe fydd y tywydd yn un newid mawr... mae'r glaw wedi bod yn disgyn yn weddol gyson yma, ac er bod gan y ddinas ddiwydiannol yma nifer o adeiladau hardd, dyw llwydni'r cymylau ddim yn gwneud llawer i wella'r ddelwedd.

Mwy am Euro 2016 ar Cymru Fyw

Mae pryderon hefyd am ddiogelwch. Gan y bydd Slofacia yn wynebu Rwsia yn Lille nos Fercher, mae'n debyg y bydd nifer o gefnogwyr y pedwar tîm sydd yng ngrŵp Cymru yn yr un ddinas ar yr un pryd.

Y gobaith wrth gwrs yw y bydd yr awdurdodau wedi ymdopi'n well gydag unrhyw drafferth nag y gwnaethon nhw yn Marseilles.

Yn sicr roedd eu presenoldeb yn fwy amlwg o'r dechrau - wrth gyrraedd y maes awyr brynhawn Llun, y peth cyntaf i wynebu teithwyr oedd heddlu arfog.

Ond roedd y cefnogwyr deithiodd ar yr un awyren ddydd Llun yn dweud yr un peth, ac yn gobeithio na fydd rheswm i'r heddlu ymyrryd.

Byddai glaw trwm yn un peth allai daflu dŵr oer ar unrhyw drafferth... yn llythrennol.

Ar ol nos Sadwrn, go brin bod digon o ddŵr yn y cymylau i ddifetha'r achlysur i gefnogwyr Cymru, a byddai canlyniad da arall nos Iau yn eu rhoi gam anferth yn nes at yr 16 olaf yn y gystadleuaeth.

Image caption Ymlaen at Lille a Lens