ACau i 'gynrychioli' anifeiliaid a phlanhigion prin

cornchwiglod
Image caption Mae nifer y cornchwiglod yng Nghymru wedi gostwng yn ddiweddar

Bydd anifeiliaid, adar a phlanhigion mwyaf prin Cymru yn derbyn aelod cynulliad yr un i siarad ar eu rhan.

Mae'r cynllun yn dilyn ymdrech debyg gan aelodau Senedd yr Alban.

O'r pathew i'r barcud coch, bydd 60 esiampl o fywyd gwyllt yn cael eu rhannu ymysg y gwleidyddion.

Bydd cyfle i ACau gymryd rhan mewn ymweliadau a gweithgareddau cadwraeth yn ymwneud â'u rhywogaeth benodol.

Cyswllt Amgylcheddol Cymru, y corff sy'n cynrychioli nifer o elusennau amlwg, sy'n gyfrifol am y cynllun.

Maen nhw'n dadlau bod gan y Cynulliad presennol rôl allweddol i'w chwarae o ran diogelu byd natur, gyda thargedau rhyngwladol yn agosáu o ran lleihau colledion bywyd gwyllt erbyn 2020.

Dan Gonfensiwn Amrywiaeth Biolegol y Cenhedloedd Unedig mae'r rhain yn cynnwys gweld gwellhad amlwg yn nifer y rhywogaethau sy' dan fygythiad.

Daeth adroddiad gan 25 o gyrff cadwriaethol yn 2013 i'r casgliad fod bywyd gwyllt yn wynebu "argyfwng" yng Nghymru, gyda 60% o'r rhywogaethau gafodd eu hastudio wedi dirywio o ran niferoedd, ac un ym mhob 10 yn wynebu difodiant.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Steffan Messenger, Gohebydd Amgylcheddol BBC Cymru.

Mae Aelodau Cynulliad sydd eisoes wedi ymuno â'r cynllun yn cynnwys John Griffiths o'r Blaid Lafur, fydd yn siarad dros lygoden y dŵr, sef y mamal sy'n dirywio gyflyma' ym Mhrydain.

Mae'r boblogaeth yn y DU wedi disgyn dros 95% ers y 1960au, o lefel o oddeutu 8 miliwn i 220,000 yn 2004.

Mae prosiect i ail-gyflwyno'r creadur swil wedi gweld llwyddiant yng ngwarchodfa natur Corsdir Magwyr yn etholaeth Mr Griffiths, sef Dwyrain Casnewydd.

"Maen nhw'n greaduriaid bach hyfryd," meddai wrth BBC Cymru.

"Pa bynnag elfen o fyd natur y'n ni'n ei ddefnyddio i gysylltu â phobl, i danio dychymyg plant ac ysgolion - wel ma' hynny'n werthfawr iawn o ran lledaenu'r neges ynglŷn â diogelu byd natur. Dy'n ni ddim isie gweld rhywogaethau sy'n bwysig iawn i ni yma yng Nghymru yn marw allan."

Yn y cyfamser, yng ngogledd Cymru mae Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru wedi cytuno i fod yn bencampwr dros y pathew.

Mae 607 o'r mamaliaid bychain wedi derbyn meicrosglodyn yng Nghoedwig Bontuchel, Rhuthun, a'u niferoedd yn cael eu monitro yno gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru.

Image caption Llygoden y dŵr

'Mwy o gyswllt'

Dywedodd Mr Gruffydd y bydda'r cynllun yn sicrhau bod gan wleidyddion a'r cyhoedd fwy o gysylltiad â byd natur.

"Bydd bywyd gwyllt ar flaen eu meddyliau, a byddan nhw'n medru ystyried datblygiadau posib yn eu hetholaethau allai effeithio ar rywogaethau prin allai fod yn unigryw i'w hardal nhw efallai," meddai.

"Mae hyn yn sicr yn un ffordd y gallwn ni sicrhau bod 'na leisiau cryfion yn dadlau achos yr amgylchedd yng Nghymru."

Dywedodd James Byrne o Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt Cymru mai bwriad yr ymgyrch oedd dangos bioamrywiaeth Cymru a rhoi "natur wrth galon y llywodraeth".

"Fe allai rhywogaethau sy'n eiconig i Gymru fel y gylfinir ddiflannu'n llwyr o fewn cenhedlaeth," meddai, "ond dyw'r rhan fwyaf o bobl ddim yn sylweddoli hynny - a dyna pam ein bod ni angen ein gwleidyddion ni i siarad am hyn yn y Senedd a helpu Llywodraeth Cymru atal y dirywiad."

Ymysg y rhywogaethau eraill fydd yn cael eu mabwysiadu gan Aelodau Cynulliad mewn lansiad ddydd Mercher mae'r dyfrgi, y wiwer goch, y dolffin, golyn byw Britheg y Gors, môr-wennol y gogledd a'r sewin.