Rhybudd tywydd melyn dros Gymru

Map Image copyright Met Office

Gallai rhagor o law trwm a tharanau effeithio ar rannau o Gymru, a hynny ar ôl nifer o gawodydd trwm ddydd Mawrth, pan gafodd rhai ffyrdd eu cau oherwydd llifogydd.

Roedd yn rhaid i siopau yn Wrecsam gau yn gynnar ar ôl i nifer o doeau gael eu difrodi, ac fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i fynd i'r afael â llifogydd mewn rhai ardaloedd.

Cyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd tywydd "difrifol" o law trwm ar draws pob rhan o Gymru ar gyfer dydd Mercher .

Dywedodd y gallai hyd at 25mm syrthio mewn rhai lleoliadau.