Hennessey, Ledley a Kanu i ddechrau dros Gymru

Y tim

Mae Cymru wedi cyhoeddi tri newid i'r tîm fydd yn dechrau'r gêm yn erbyn Lloegr, yn eu hail gêm ym mhencampwriaeth Euro 2016 yn Ffrainc.

Mae Wayne Hennessey, Joe Ledley a Hal Robson-Kanu ymhlith 11 Cymru fydd yn camu ar y cae yn Stade Bollaert-Delelis.

Bydd Danny Ward, Dave Edwards a Jonathan Williams ar y fainc.

Mae Lloegr wedi cyhoeddi na fydd newid i'r tim fydd yn dechrau'r gem y prynhawn 'ma. Yr 11 yw Hart, Walker, Cahill, Smalling, Rose, Alli, Dier, Rooney, Lallana, Sterling, Kane.

Image copyright UEFA

Cymru sydd ar frig grŵp B ar hyn o bryd ar ôl iddyn nhw guro Slofacia ddydd Sadwrn o 2-1.

Dyma'r tro cyntaf i Gymru gymryd rhan yn un o brif bencampwriaethau'r byd ers 58 o flynyddoedd.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn Lens am 14:00 ac mi fydd llif byw Cymru Fyw yn dilyn y cyfan.

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Tîm sylwebu Radio Cymru'n dadansoddi'r gêm fawr heddiw.

Diogelwch

Gyda'r gêm yn nhref Lens, sy'n lle gymharol fychan, mae degau ar filoedd o gefnogwyr yn ninas Lille, sydd gerllaw.

Cafodd o leiaf drideg chwech o bobl eu harestio ar ôl gwrthdaro yno rhwng yr heddlu a chefnogwyr peldroed Lloegr nos Fercher. Mi gafodd nwy dagrau eu defnyddio gan yr heddlu i wasgaru'r dorf oedd wedi ymgynnull yn y ddinas cyn gem Cymru a Lloegr. Cafodd 16 o bobl eu cludo i'r ysbyty.

Mae disgwyl presenoldeb heddlu amlwg yn dilyn yr helynt rhwng cefnogwyr Lloegr a Rwsia ar benwythnos cyntaf y gystadleuaeth, gyda chyngor i gefnogwyr beidio mynd i unman ar eu pennau eu hunain.

Image copyright Reuters
Image caption Nwy dagrau yn llenwi'r awyr yn Lille nos Fercher

Mae yna waharddiad ar yfed alcohol ar y strydoedd yn Lens, ac felly hefyd yn ninas Lille.

Ond mae'n ymddangos nad yw'r gwaharddiad hwnnw yn llwyddo, gydag adroddiadau fod bariau yn parhau i werthu alcohol a phobl yn yfed ar y strydoedd.

Roedd hynny'n un feirniadaeth gan Vince Alm, o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Cymru, sy'n gweithio yn llysgenhadaeth y cefnogwyr ar y prif sgwâr yn Lille.

"Roedd y gwaharddiad wastad yn mynd i fod yn amhosib i'w weithredu oherwydd mae cymaint o lefydd yn gwerthu alcohol yma ac yn trio rhedeg busnes," meddai.

'Hen bryd i Gymru ennill'

Yn ystod cynhadledd newyddion ddydd Mawrth, dywedodd Gareth Bale ac Aaron Ramsey eu bod yn ffyddiog y gallai Cymru ennill.

Yn ôl y chwaraewr canol cae, Aaron Ramsey, mae'n "hen bryd" i Gymru guro Lloegr.

Dim ond 14 o'r 101 o gemau yn erbyn Lloegr mae Cymru wedi ennill. Maen nhw wedi colli 66 ac wedi cael sgôr gyfartal mewn 21 o gemau.

Os bydd Cymru'n curo Lloegr yna byddan nhw yn bendant o'u lle yn y rownd nesaf, sef yr 16 olaf. Ond hyd yn oed os na fyddan nhw'n fuddugol, fe allen nhw fynd drwodd os bydd canlyniadau eraill yn mynd o'u plaid.

Dywedodd Aaron Ramsey: "Mae'r pwysau i gyd arnyn nhw (Lloegr). Rydyn ni'n gwybod beth allwn ni ei wneud. Mi fyddwn ni'n trio ein gorau glas i gael y canlyniad a gobeithio y bydd hynny'n ddigon."