Adroddiad yn dweud fod 'S4C yn hanfodol i dwf y Gymraeg'

Adroddiad Pwyllgor Materion Cymreig Image copyright BBC + S4C

Mae S4C yn hanfodol i dwf yr iaith Gymraeg, medd adroddiad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar ddyfodol darlledu yng Nghymru.

Wedi dwy flynedd o gasglu tystiolaeth, mae adroddiad y pwyllgor yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David TC Davies, fod yr adroddiad hefyd yn mynegi pryderon am y ffordd y mae Cymru'n cael ei phortreadu ar y teledu.

Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad y dylai darlledwyr o Gymru gael llais cryfach pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud, wrth i'r diwydiant darlledu barhau i ddatblygu.

'Ariannu teg i S4C'

Dywedodd Mr Davies fod pryderon yn parhau am ariannu'r sianel: "Mae'r adroddiad yn dweud ei bod hi'n bwysig iawn i sylweddoli pa mor bwysig yw S4C.

"Mae'n bwysig cefnogi S4C achos pwysigrwydd S4C i'r iaith Gymraeg. Mae pawb yn y pwyllgor yn poeni am y toriad arian i S4C a dwi eisiau sicrhau bod hynny ddim yn parhau, bod funding teg i S4C yn digwydd."

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Adroddiad Darlledu

Dywedodd hefyd bod angen i S4C fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf: "Dwi'n hapus gydag S4C. Dwi'n meddwl bod rheolwr da gyda ni yn S4C.

"Mae'n bwysig sylweddoli bod y ffordd mae'r cyhoedd yn gwylio'r teledu yn newid nawr - mae lot mwy o bobl yn defnyddio iPads, laptops ac yn y blaen, yn hytrach na gwylio ar y teledu.

"Mae'n bwysig sylweddoli hynny a sicrhau bod S4C yn gallu cymryd mantais o hyn yn hytrach na jyst gwneud rhaglenni ar gyfer y teledu."

Delwedd Cymru

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod angen gwella'n sylweddol y ffordd y mae Cymru'n cael ei phortreadu ar ein sgriniau.

Dywedodd Mr Davies: "Mae angen gwella proses gomisiynu'r BBC yn sylweddol. Rydym wedi clywed llawer o dystiolaeth sy'n feirniadol o'r strwythur presennol.

"Yn ystod y Siarter nesa', dylai Cymru gael lle ar fwrdd newydd arfaethedig y BBC, ac fe ddylai Gwasanaeth Trwyddedu Cenedlaethol i Gymru gael ei gyflwyno yn lle'r strwythur presennol.

"Ry' ni'n credu y bydd mesurau o'r fath yn gam cyntaf at fynd i'r afael â'n pryderon.

"Fe fyddan nhw hefyd yn cefnogi sector gynhyrchu annibynnol fywiog yng Nghymru, sydd mor bwysig i'r economi a'r diwydiant yng Nghymru."

Adlewyrchu cenhedloedd

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "Dros gyfnod y Siarter diwetha', fe drawsnewidiwyd faint o gynnwys rhwydwaith oedd yn cael ei wneud yng Nghymru, Y r Alban a Gogledd Iwerddon, ond rydym yn derbyn nad yw'r rhaglenni hynny'n adlewyrchu'r cenhedloedd iddyn nhw'u hunain, nag i weddill y wlad.

"Fis diwetha', fe amlinellon ni gynlluniau i adlewyrchu'n well yr amrywiaeth o ddiwylliannau a chymunedau sydd yn y DU ar sgrin ac ar yr awyr, gan gynnwys gwario mwy o arian ar raglenni cyfrwng Saesneg yng Nghymru, a chael cyfarwyddwr comisiynu i fod yn gyfrifol am ddrama teledu yng Nghymru.

"Rydym yn croesawu cefnogaeth y pwyllgor i'n cynnig ni i sicrhau y bydd Cymru'n cael ei chynrychioli'n llawn ar y Bwrdd arfaethedig newydd fydd yn rheoli'r BBC, yn ogystal â chael trwydded i ddarparu atebolrwydd clir i'r gwasanaethau sydd yn cael eu darparu yno."

'Angen datganoli darlledu'

Tra'n croesawu'r adroddiad, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn galw am ddatganoli darlledu 'er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg yn y cyfryngau'.

Dywedodd Curon Wyn Davies, cadeirydd grŵp digidol y gymdeithas: "Rydyn ni'n falch bod yr adroddiad yn tynnu sylw at ansicrwydd ariannol S4C, ac yn derbyn nifer o'n dadleuon ni.

"Gwnaed addewid clir ym maniffesto'r Ceidwadwyr i beidio â thorri ei chyllideb yn ystod tymor y Llywodraeth hon, felly nawr yw'r amser i drafod sut i fuddsoddi'n bellach yn ein hunig sianel Gymraeg.

"Mae'n braf gweld bod y pwyllgor yn gweld yr angen i ehangu cylch gwaith y darlledwr i'r maes digidol.

"Fodd bynnag, yn y pen draw, mae angen datganoli darlledu i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â fformiwla ariannol statudol i S4C er mwyn sicrhau cyfundrefn darlledu sy'n llesol i'r iaith a'n holl gymunedau."


Dadansoddiad Huw Thomas, gohebydd Celfyddydau a Chyfryngau BBC Cymru

Am ddwy flynedd mae'r drafodaeth ynghylch dyfodol y BBC yng Nghymru wedi canolbwyntio ar gyllidebau, a'r portread o gymunedau Cymreig ar sgrîn.

Mae'r pwyllgor wedi adlewyrchu consensws gwleidyddol yng Nghymru sydd wedi galw am gynyddu'r gwariant ar raglenni Saesneg, a chynyddu'r nifer o gymeriadau a straeon Cymreig sydd i'w gweld ar raglenni'r rhwydwaith.

Ond prin yw'r manylion gan y BBC ynglŷn â faint maen nhw'n gobeithio cynyddu'r gwariant, er efallai bydd yr atebion yn dod dros yr wythnosau nesaf.

Erbyn hyn mae rhai o bryderon y pwyllgor wedi'u hateb.

Roedd papur gwyn Llywodraeth y DU ar ddyfodol y BBC wedi argymell cadw sedd ar fwrdd y gorfforaeth i aelod o Gymru.

Ac fe fydd dyfodol S4C yn cael ei ystyried gan adolygiad annibynnol yn 2017, yn dilyn blynyddoedd o ansicrwydd a lobïo gan wleidyddion ac ymgyrchwyr ynglŷn â chyllideb y sianel.