Galwad i gefnogwyr 'ymddwyn yn gyfrifol'

Wales fans Image copyright Getty Images
Image caption Bydd cefnogwyr Cymru yn teithio i Toulouse ar gyfer y gêm yn erbyn Rwsia

Mae un o brif swyddogion yr heddlu wedi rhybuddio cefnogwyr Cymru yn Ffrainc ar gyfer pencampwriaeth 2016 i "gadw'n ddiogel ac i ymddwyn yn gyfrifol."

Daw hyn ar ôl i bump o gefnogwyr Cymru gael eu harestio ar ôl cythrwfl gyda chefnogwyr Lloegr ar drên o Calais.

Dywedodd Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu fod pedwar o gefnogwyr Lloegr hefyd wedi eu harestio yn ystod y digwyddiad ddydd Mercher.

Er hyn, roedd yr awyrgylch rhwng y ddwy garfan o gefnogwyr "o natur dda" yn dilyn colled Cymru o 2-1 ddydd Iau.

Ddydd Mercher hefyd bu gwrthdaro rhwng cefnogwyr Lloegr a'r heddlu yn Lille, lle bu nifer o gefnogwyr Cymru hefyd yn aros.

Dywedodd y dirprwy brif gwnstabl, Mark Roberts o Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu, fod y cyfyngiadau oedd yn atal gwerthu alcohol ar ol hanner nos wedi bod yn "ddefnyddiol wrth geisio atal unrhyw gynnydd mewn ymddygiad treisiol"

"Mae mwy o swyddogion y DU wedi cyrraedd Ffrainc ac rydym yn cydweithio gyda heddlu Ffrainc pe bai yna rhagor o drafferthion," meddai.

"Mae nodyn i atgoffa cefnogwyr er mwyn iddynt fwynhau gweddill y bencampwriaeth, sef i gadw'n ddiogel ac i ymddwyn yn gyfrifol - peidio â tharo nôl pe bai chi'n cael eich profocio ac i ofyn am gymorth yr heddlu pe bai rhywun yn ymosod arnoch.

Image copyright Getty Images
Image caption Cefnogwyr Cymru yn Stade Bollaert-Delelis

Roedd presenoldeb yr heddlu yn amlwg yn Lens a Lille lle'r oedd yna drafferth ddydd Mercher, gyda gwrthdaro rhwng rhai o gefnogwyr Lloegr a Rwsia.

Cafodd 37 o bobl eu harestio, gyda'r heddlu yn defnyddio nwy dagrau.

Mae tîm Rwsia wedi cael rhybudd y byddant yn cael eu diarddel o'r gystadleuaeth pe bai yna ragor o drais, ar ôl i'w cefnogwyr ymosod ar gefnogwyr Lloegr yn ystod eu gem yn Marseille ddydd Sadwrn

Fe fydd Cymru yn wynebu Rwsia yn eu gem olaf yng Ngrŵp B nos Lun, ac mae gan Gymru gyfle o hyd i gymhwyso i'r rownd nesa.