Cwpan Nanteos yn y Llyfrgell Genedlaethol

Image caption Cwpan Nanteos

Bydd Cwpan Nanteos yn cael ei arddangos yn barhaol yn y Llyfrgell Genedlaethol o ddydd Sadwrn 18 Mehefin.

Mae`r darn pren yn fregus iawn a dyma`r cyfan sydd ar ôl o gwpan yfed hynafol.

Y gred yw bod y darn wedi dod i ddwylo teulu Powell yn Nanteos o Abaty Ystrad Fflur.

Mae arbenigwyr yn credu bod y cwpan, sydd wedi ei wneud o goeden olewydd yn dyddio'n ôl i'r 14eg ganrif.

Mae rhai yn credu i Iesu Grist yfed o`r cwpan yn y Swper Olaf, ac mae eraill o`r farn ei fod yn gwpan cymun hynafol neu yn ddysgl uwd.

Yn ôl y Llyfrgell yn Aberystwyth "fe fydd rhaid i ymwelwyr benderfynu`r gwir dros eu hunain. "